Dau filwr wedi marw yn dilyn digwyddiad tanc Castell Martin
- Cyhoeddwyd
Mae ail filwr wedi marw yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â thanc ar faes tanio Castell Martin yn Sir Benfro.
Daeth y cyhoeddiad am yr ail farwolaeth yn hwyr nos Iau mewn trydar gan Tobias Ellwood, Gweinidog yn y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Mae dau filwr arall mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad tua 15:30 brynhawn Mercher.
Dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn na fydd yna danio ar y safle am y tro ac mae ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Bu farw un o'r milwyr yn Ysbyty Treforys fore Iau.
Dywedodd y gweinidog sydd â chyfrifoldeb, Tobias Ellwood, bod y ddau filwr a fu farw yn aelodau o Gatrawd Brenhinol y Tanciau.
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn, Heddlu Dyfed-Powys a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn cynnal ymchwiliad.
Mae BBC Cymru yn deall fod y digwyddiad yn ymwneud â ffrwydron sy'n cael eu tanio o danciau Challenger.
"Diogelwch ein staff yw ein blaenoriaeth pennaf, ac mae ymchwiliad llawn wedi'i lansio i ddeall manylion y digwyddiad trasig yma," meddai Mr Ellwood.
Mae gwybodaeth ar wefan y ganolfan yn dweud bod disgwyl i fwledi byw gael eu tanio yno drwy gydol yr wythnos.
Mae'r safle dros 5,900 acer ar hyd arfordir Sir Benfro.