Cyngor Conwy: Plaid yn gwrthod clymblaid â'r Ceidwadwyr
- Cyhoeddwyd
Mae pwyllgor gwaith cenedlaethol Plaid Cymru wedi gwrthod caniatáu i'w cynghorwyr yng Nghonwy ffurfio clymblaid gyda'r Ceidwadwyr.
Roedd arweinydd Cyngor Conwy, Gareth Jones sydd hefyd yn gyn AC Plaid Cymru, wedi cyhoeddi ei fod wedi ffurfio cabinet gyda phum aelod Ceidwadol, pedwar o Blaid Cymru ac un cynghorydd annibynnol.
Ond fe wnaeth un o'r cynghorwyr Plaid Cymru hynny, Trystan Lewis, ymddiswyddo yn dilyn ymateb negyddol gan rai aelodau'r blaid i'r cytundeb.
Mae pwyllgor gwaith y blaid nawr wedi gwrthod rhoi sêl bendith i benderfyniad Mr Jones i daro bargen â'r Torïaid.
'Siomedig'
Dywedodd cadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones yn dilyn cyfarfod ddydd Gwener "na fyddai cynghorwyr Plaid Cymru yn ffurfio cabinet sydd yn cynnwys Ceidwadwyr".
Mewn ymateb i hynny dywedodd Mr Jones ei fod yn "hynod siomedig" â'r penderfyniad.
"Dwi'n galw am gael gwybod mewn ffordd drylwyr a manwl beth yn union yw'r rheswm sydd yn cael ei gynnig am y penderfyniad," meddai.
"Dwi'n gweld dim byd yng nghyfansoddiad y blaid sydd yn atal hyn. Mae'r penderfyniad yn amharu yn andwyol ar ein gwaith ni yn lleol, ac yn atal pobl dalentog rhag cael cyfle i weithio mewn nifer o feysydd pwysig."
Mewn neges Facebook dywedodd Mr Lewis, dyn busnes a cherddor lleol, fod ei ymddiswyddiad yn golygu ei fod "wedi colli'r cyfle i wneud gwahaniaeth yn lleol" ar bynciau fel addysg a'r Gymraeg.
Ond roedd hefyd yn derbyn fod yna wrthwynebiad i'r syniad o glymblaid gyda'r Torïaid.
"Sylweddolais fy mod yn rhoi Plaid Cymru mewn lle anodd, gwneud gwahaniaeth yn lleol ar draul y cenedlaethol, ac mae fy nheyrngarwch i Blaid Cymru yn absoliwt. Dwi'n dal yn drist bod yna golli cyfle yn lleol."
Ar ôl cael ei ethol fel arweinydd y cyngor, roedd Mr Jones wedi dweud ei fod eisiau gwahodd aelodau o bob grŵp gwleidyddol i fod yn rhan o'r cabinet.
Ond dim ond y Ceidwadwyr ac un o'r grwpiau annibynnol gytunodd i wneud, gyda Llafur a'r grŵp annibynnol arall yn gwrthod.