£1.3m tuag at redeg clybiau codio yn ysgolion Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd ysgolion yng Nghymru yn cael £1.3m er mwyn sefydlu rhagor o glybiau i ddysgu codio cyfrifadurol.
Mae'r buddsoddiad dros bum mlynedd yn rhan o becyn £100m gan Lywodraeth Cymru i geisio codi safonau ysgolion.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams ei bod hi eisiau i bob disgybl gael y cyfle i ddysgu a rhoi cynnig ar godio, wrth i bwyslais ar sgiliau digidol barhau i dyfu.
Y disgwyl yw y bydd 100,000 yn rhagor o swyddi yn y DU sydd yn gofyn am sgiliau codio erbyn 2020.
'Rhan o fywyd pawb'
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae tua 1.5m o swyddi yn y sector ddigidol yn y DU, gyda thua 400,000 o'r rheiny yn gofyn am sgiliau codio.
"Mae codio yn rhan o fywyd bron pawb. Pan rydyn ni'n edrych ar y cyfryngau cymdeithasol, defnyddio ap neu gyfrifiadur rydyn ni'n defnyddio systemau sydd wedi eu creu drwy gôd," meddai Ms Williams.
"Mae'n rhan hanfodol o'n byd modern a dwi eisiau sicrhau bod cymaint o'n pobl ifanc â phosib yn ymwybodol ohono wrth iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau digidol."
Mae'r cwricwlwm newydd sydd i fod i gael ei gyflwyno yn 2021 yn argymell y dylai sgiliau TG gael eu hystyried ar yr un lefel â llythrennedd a rhifedd, a bwriad y buddsoddiad diweddaraf yw cynyddu nifer y clybiau codio o'r 300 sydd i gael ar hyn o bryd.
Beth yw codio?
Mae codau cyfrifiadurol yn set o reolau a chyfarwyddiadau, gan ddefnyddio geiriau a rhifau;
Pan rydych chi'n eu gosod nhw yn y drefn gywir, bydd yn dweud wrth y cyfrifoadur beth i'w wneud;
Codio yw beth sy'n ei gwneud hi'n bosib creu meddalwedd cyfrifiadurol, apiau a gwefannau;
Mae'r apiau ar eich ffôn, Facebook - hyd yn oed y dudalen we hon - wedi eu creu gan ddefnyddio côd.
Cafodd y cyhoeddiad gan Ms Williams ei wneud yn Ysgol Gynradd Llandochau, Bro Morgannwg, ble maen nhw eisoes yn dysgu sgiliau cyfrifiadurol ac yn bwriadu dechrau clwb codio ym mis Medi.
"Mae diffyg dealltwriaeth i rai rhieni sydd ddim wedi gweld beth yw codio, a beth mae'n gallu cynnig i blant," esboniodd y pennaeth Mark Ellis.
Dywedodd Maria Quevedo o Sefydliad Raspberry Pi, sydd yn rhedeg 10,000 o glybiau codio mewn 10 gwlad, ei bod hi'n bwysig bod pobl ifanc yn dod yn rhan o'r broses o greu codau yn hytrach na'u defnyddio yn unig.
"Mae gan bob swydd elfen dechnolegol a digidol ynddi ac wrth i amser fynd yn ei flaen mae'r byd yn mynd yn fwy digidol, felly mae technoleg yn allweddol," meddai.