Catriona Morison yn cipio teitl Canwr y Byd
- Cyhoeddwyd
Y Mezzo soprano Catriona Morison 31 oed o'r Alban sydd wedi ennill cystadleuaeth BBC Canwr y Byd eleni.
Cafodd y gystadleuaeth, sy'n cael ei ystyried yn un o gystadlaethau operatig pwysicaf y byd, ei chynnal yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.
Roedd pump yn cystadlu yn y ffeinal eleni yn y gystadleuaeth ar gyfer cantorion sydd ar ddechrau eu gyrfa, a rhwng 18 a 32 oed.
Cystadleuwyr rownd derfynol Gwobr BBC Canwr Y Byd
Anthony Clark Evans, bariton o Unol Daleithiau America, 32 oed - enillydd rownd un
Ariunbaatar Ganbaatar, bariton o Fongolia, 29 oed - enillydd rownd dau
Louise Alder, soprano o Loegr, 30 oed - enillydd rownd tri
Kang Wang, tenor o Awstralia - 29 oed - enillydd pedwar
Catriona Morison, mezzo soprano o'r Alban, 31 oed - lle wedi ei neilltuo
Roedd mwy na 300 o gantorion o 55 o wledydd wedi gwneud cais i fod yn rhan o'r gystadleuaeth eleni, a 20 wnaeth gyrraedd y rowndiau olaf.
Yn 1983 cafodd y gystadleuaeth ei chynnal am y tro cyntaf ac mae'n cael ei darlledu ar radio a theledu'r BBC.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2017