Cytundeb maes awyr yn cynnig cyfleoedd newydd i fusnesau

  • Cyhoeddwyd
Qatar AirwaysFfynhonnell y llun, Reuters

Mae cynrychiolwyr o Faes Awyr Caerdydd a chwmni awyren Qatar Airways yn cyfarfod gyda busnesau o Gymru i amlinellu'r gwerthoedd o hedfan i Doha pan fydd y gwasanaeth yn dechrau flwyddyn nesaf.

Mae sicrhau gwasanaeth i feysydd awyr y tu allan i Ewrop wedi bod yn un o flaenoriaethau'r maes awyr.

Bydd hyn yn ffactor allweddol i geisio sicrhau dwy filiwn o deithwyr yn y pum mlynedd nesaf.

Mae'r Maes Awyr wedi dweud nad ydyn nhw'n credu bydd tensiynau yn lleol yn y Dwyrain Canol yn effeithio ar y gwasanaeth newydd.

Ers y cyhoeddiad mae sancsiynau wedi'i rhoi ar Qatar gan Saudi Arabia.

Deb Barber
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Deb Barber bod y cynllun newydd yn 'drawsnewidiol'

Mae hyn yn cynnwys gwrthod caniataid Qatar Airways i hedfan yng ngofod hedfan Saudi Arabia.

Mae maes awyr Caerdydd yn credu gallai teithiau cyson i Doha gynnig cyfleoedd newydd i fusnesau yn ne Cymru a De Orllewin Lloegr.

Dywedodd Prif Weithredwr Maes awyr Caerdydd, Deb Barber: "Mae'n drawsnewidiol, Mae wedi bod yn rhan o'n strategaeth ers amser i ddod a gwasanaethau teithiau hir i Gymru.

"Dyma'r unig ardal i beidio cynnig y gwasanaeth ar hyn o bryd, felly mae gap enfawr wedi bod yn y farchnad ac rydym wedi ei lenwi", meddai.

Mae ffigyrau diweddar yn dangos gwerth £26m o allforion o Gymru i Qatar yn 2016.