Sêr ifanc y Steddfod
- Cyhoeddwyd
Mae nifer ohonon ni wedi cystadlu a pherfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol dros y blynyddoedd... a dydy selebs ddim yn eithriad!

Ffion Dafis yn cystadlu yng ngwobr Richard Burton yn Eisteddfod Aberystwyth yn 1992 - roedd yn sicr yn ddechrau addawol i'w gyrfa actio llwyddiannus

Mae Sam Roberts, un aelod o'r band HMS Morris, wedi newid yn aruthrol ers iddo gystadlu yn yr unawd i fechgyn yn Eisteddfod 1998 ym Mro Ogwr

Enillodd Shân Cothi yr unawd soprano 18-25 oed yn Eisteddfod Abergwaun yn 1986. Naw mlynedd yn ddiweddarach, enillodd hi'r Rhuban Glas ym Mro Colwyn

Llŷr Gwyn Lewis yn dangos y gadair fach a enillodd yn Eisteddfod Bro Ogwr, 1998. Mae'n debyg fod ei gariad at farddoni, a sbectols crwn, wedi dechrau yn ifanc iawn...!

Dyma Aled Pugh mewn digwyddiad teyrnged i Ryan Davies yn Eisteddfod Bro Dinefwr yn 1996. Mae Aled wedi portreadu Ryan nifer o weithiau erbyn hyn, ac yn 2010 enillodd wobr Bafta Cymru am yr actor gorau, am y ffilm Ryan a Ronnie

Enillodd Rebecca Trehearn y tro cyntaf iddi gystadlu yn yr unawd cerdd dant 12-16 oed ym Mro Colwyn yn 1995. Mae hi'n amlwg yn hen law ar ennill, gan iddi yn ddiweddar ennill gwobr Olivier am ei rôl yn y sioe gerdd 'Showboat'

Mae Huw Bryant (aka DJ Bry ar Sianel Pump) wedi bod yn gwneud i ni chwerthin ers iddo fod yn ddim o beth. Dyma fo yn cystadlu yn yr eitem ddigri yn 2001 yn Ninbych

Roedd Emma Walford yn un o'r prif gymeriadau ym Mhasiant y Plant 1989 pan ddaeth yr Eisteddfod i Lanrwst - digon o sioe!

Dai Jones Llanilar oedd enillydd y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman yn 1970

Enillodd Daniel Evans wobr Richard Burton yng Nghwm Rhymni 1990 - y flwyddyn gyntaf i'r wobr gael ei rhoi

Y ferch fach ddel yma ydy Nia Lloyd Jones yn cystadlu gyda Pharti'r Ynys yn Eisteddfod Caerdydd 1978

Mae Gwyneth Glyn yn gwisgo ychydig llai o golur ar ei llygaid y dyddiau yma, o'i gymharu â'i hymddangosiad mewn cyflwyniad dramatig yn 1999 yn Ynys Môn!