Achosion cam-drin emosiynol plant wedi treblu

  • Cyhoeddwyd
Cam-drinFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae nifer yr achosion o blant sy'n dweud eu bod yn cael eu cam-drin yn emosiynol wedi treblu ers 2009, yn ôl yr NSPCC.

O'r 344 o achosion y deliodd yr elusen â nhw yn 2016-17, fe gysylltodd yr NSPCC gyda'r heddlu neu gynghorau 272 o weithiau, o'i gymharu a 205 yn y flwyddyn flaenorol.

Dywedodd pennaeth yr NSPCC yng Nghymru, Des Mannion, fod plant yn gallu diodde'n ofnadwy os yw rhieni neu ofalwyr yn eu cam-drin yn eiriol.

Yn 2009-10, 112 o alwadau tebyg gawson nhw.

Dywedodd Mr Mannion: "Mae'r cynnydd enfawr...yn arwydd fod pobl yn fodlon gweithredu.

"Ond y gwirionedd anghyfforddus yw nad oes gan y DU syniad faint o blant eraill sy'n dioddef o gamdriniaeth emosiynol, neu unrhyw fath o gamdriniaeth."

Nododd adroddiad yr elusen fod gweithwyr llinell gymorth wedi clywed profiadau o rieni yn dweud wrth blant eu bod nhw'n eu casáu nhw neu'n dymuno eu bod nhw wedi marw, neu'n bygwth bod yn dreisgar.

Gall camdriniaeth emosiynol hirdymor wneud i blant deimlo'n ddiwerth, medd yr adroddiad, gan arwain at broblemau fel iselder yn nes ymlaen yn eu bywydau.