Tesco: Colli 1,100 o swyddi o ganolfan alwadau

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Tesco

Mae archfarchnad Tesco wedi cadarnhau y bydd 1,100 o swyddi yn cael eu colli yn ei chanolfan alwadau yng Nghaerdydd.

Dywedodd Tesco mai'r bwriad yw ffurfio un ganolfan yn Dundee yn Yr Alban, a bydd 250 o swyddi yn cael eu creu yno.

Yn ôl undeb USDAW mae staff y ganolfan yng Nghaerdydd wedi cael gwybod am y cynllun ac fe fydd y ganolfan yn ardal Y Mynydd Bychan yn cau'r flwyddyn nesaf.

Dywedodd Tesco bod yn rhaid iddyn nhw sicrhau bod y busnes yn "gynaliadwy ac yn gost-effeithiol".

'Sioc'

Dywedodd swyddog rhanbarthol USDAW, Nick Ireland: "Mae staff canolfan alwadau Tesco Caerdydd, yn amlwg, wedi cael cryn sioc - maent yn cael mwy o wybodaeth gan reolwyr y prynhawn 'ma.

"Mae cynrychiolwyr a swyddogion ar ran yr undeb yn cefnogi aelodau yn ystod y cyfnod anodd hwn.

"Mae hwn yn amlwg yn newyddion drwg iawn i aelodau a bydd cau'r ganolfan yn cael effaith ehangach ar dde Cymru.

"Ein blaenoriaeth yw cadw cymaint â phosib o aelodau mewn gwaith, naill ai gyda Tesco neu gyda chyflogwyr lleol eraill a byddwn yn sicrhau'r cytundeb gorau posib i'n haelodau."

Dywedodd hefyd y bydd yr undeb yn cynnal trafodaethau ymgynghorol gyda Tesco er mwyn edrych ar yr achos busnes dros gau'r ganolfan.

Mynegi pryderon

Dywedoddy Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod wedi mynegi ei bryderon am y newyddion wrth brif weithredwr Tesco, Matt Davies: "Mae fy meddyliau gyda'r gweithlu a'r unigolion fydd yn dioddef yn sgil hyn hyn, a'u teuluoedd, sydd ddim yn gwybod beth yw eu dyfodol o ran ble fyddan nhw'n gweithio.

"Fe bwysleisiais wrth y prif weithredwr yr angen am becyn gweddus a hael i'r gweithwyr.

"Fe gynigiais unrhyw help y gall y Llywodraeth ei gynnig, ac wrth gwrs, bydd yna help ar gael i'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan y cau."

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, sy'n cynrychioli'r rhanbarth lle mae'r ganolfan, ei bod yn arwydd nad yw strategaeth Llafur ar swyddi yn gweithio

"Yn gymharol ddiweddar y cawsom y newyddion fod cwmni Barclays yn cau y ganolfan forgais yn Llanisien ac fe gollodd 180 o bobol eu gwaith," meddai.

"O bosib dyma'r golled unigol fwyaf o ran swyddi yng Nghymru ers 2009."

'Cefnogaeth lawn'

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, ei fod yn bryderus am y cyhoeddiad.

"Rwy'n derbyn diweddariadau cyson gan y cwmni ac yn ymrwymedig i weithio gydag asiantaethau perthnasol, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru er mwyn darparu cymaint o gefnogaeth â phosib," meddai.

Ar ran Plaid Cymru, mae llefarydd y blaid ar economi a chyllid, Adam Price wedi gofyn a oes modd cael gwybod a yw cwmni Tesco wedi cael cymorth ariannol i symud i'r Alban neu a yw hwn yn benderfyniad sy'n torri costau.

Ychwanegodd: "Bydd yn rhaid i bob gweithiwr sy'n colli ei swydd gael cefnogaeth lawn gan Lywodraeth Cymru a San Steffan."