Cyfle olaf i roi adborth ar gynlluniau Wylfa Newydd
- Cyhoeddwyd
Bydd yn rhaid i bobl sydd yn byw ac yn gweithio ar Ynys Môn roi eu hadborth ar Wylfa Newydd erbyn nos Iau wrth i gwmni Pŵer Niwclear Horizon gynnal ymgynghoriad am eu cynlluniau diweddaraf.
Fis Mai cyhoeddodd y cwmni eu bod bellach am godi atomfa lai, fyddai'n golygu llai o waith adeiladu.
Er hynny, mae Horizon yn amcangyfrif y byddai dal angen tua 8,000 o weithwyr i godi'r orsaf bŵer.
Pryder
Yr wythnos diwethaf fe wnaeth pennaeth Twristiaeth Gogledd Cymru fynegi pryder am effaith adeiladu Wylfa Newydd ar dwristiaeth.
Cyn cyhoeddi'r cynllun diweddaraf roedd pryderon am effaith y cyfnod adeiladu ar wasanaethau cyhoeddus, yr iaith Gymraeg a diwylliant yr ynys.
Dywed Horizon eu bod yn gobeithio bod y cynllun diweddaraf wedi tawelu'r ofnau hynny.
Dywedodd prif weithredwr Horizon, Duncan Hawthore: "Bydd eich adborth chi yn holl bwysig o ran helpu siapio ein cais terfynol ar gyfer y prosiect, sicrhau bod y prosiect yn arwain at gymaint o fuddion â phosib, rheoli unrhyw effeithiau, a bod yn gymydog da drwy gydol oes i Wylfa Newydd."
Ymgynghoriad arall
Ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben dywedodd Horizon y byddan nhw'n edrych ar yr holl sylwadau cyn cwblhau'r cynlluniau.
Y bwriad yw cyflwyno cais i adeiladu'r orsaf bŵer yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Dywed Horizon yn dweud y byddan nhw hefyd yn ymgynghori ar wahân ar agweddau eraill o'r prosiect.
Bydd hyn yn cynnwys gwella'r A5025 rhwng Y Fali a safle Wylfa Newydd.
Mae disgwyl manylion ar yr agweddau hynny yn ystod yr wythnosau nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2017