Jeremy Miles: 'Angen ystyried pleidleisio gorfodol'

  • Cyhoeddwyd
PLeidleisio

Dylai pleidleisio gorfodol gael ei ystyried yn etholiadau'r Cynulliad yn y dyfodol, yn ôl un Aelod Cynulliad Llafur.

Dyna'r "llwybr iawn i'w ddilyn" er mwyn rhoi hwb i nifer y pleidleiswyr, meddai Jeremy Miles.

Yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones, nid yw Llywodraeth Cymru o blaid pleidleisio gorfodol, gan ychwanegu bod hynny'n "fath o esgus i wleidyddion".

Ond mae BBC Cymru ar ddeall bod sawl aelod o'r cabinet yn bersonol o blaid cyflwyno'r newid.

'Dadl a sgwrs gyhoeddus'

Does yr un o'r pleidiau gwleidyddol yng Nghymru yn cefnogi pleidleisio gorfodol yn swyddogol.

Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gyfrifol am drefn etholiadau ei hun yn y dyfodol, yn dilyn Deddf Cymru 2017.

O ganlyniad fe all ACau benderfynu cyflwyno pleidleisio gorfodol, a gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed.

Mae Awstralia yn un o 11 o wledydd sy'n gorfodi cyfranogaeth mewn etholiadau. Mae eraill sydd wedi mabwysiadau'r drefn ond sydd ddim yn ei orfodi.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jeremy Miles bod angen trafod y syniad yn gyhoeddus

Gofynnwyd i Mr Miles, AC Castell-nedd, am ei safbwynt ar bleidleisio gorfodol. Dywedodd: "Dwi'n bersonol o blaid hynny, ond rwy'n credu bod angen cael dadl a sgwrs gyhoeddus er mwyn darbwyllo pobl mai dyna'r llwybr iawn i'w ddilyn.

"Rhyw fath o gyfranogi gorfodol bydde fe, byse dim gorfodaeth ar unrhyw un i bleidleisio am unrhyw blaid yn benodol.

"Bydde cyfle i bobl atal eu pleidlais tasan nhw ddim yn gallu dewis neu ar sail moesol."

Dywedodd Carwyn Jones: "Nid ydym o blaid pleidleisio gorfodol. Fel llywodraeth, wrth gwrs, rydym ni wedi cymryd safbwynt ein bod ni eisiau gweld, mewn etholiadau Cynulliad, pobl ifanc 16 i 18 oed yn pleidleisio, ond nid ydym o blaid pleidleisio gorfodol."

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n ystyried weithiau bod pleidleisio gorfodol yn fath o esgus i wleidyddion.

"Mae'n gyfrifoldeb i bob un ohonom, ar y cyd, i gynyddu'r nifer sy'n pleidleisio."