Llenyddiaeth Cymru: 'Pryder difrifol' am adroddiad damniol

  • Cyhoeddwyd
Llenyddiaeth Cymru

Mae Llenyddiaeth Cymru'n dweud bod ganddynt "bryderon difrifol" am sut y cafodd adroddiad beirniadol am y sefydliad ei ffurfio.

Dywedodd yr adroddiad nad oedd gan fwrdd y sefydliad y sgiliau na'r profiad i wario arian cyhoeddus.

Yn sgil yr adroddiad fe dorrodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, gyllid a chyfrifoldebau Llenyddiaeth Cymru.

Cafodd adroddiad yr Athro Medwin Hughes ar y diwydiant cyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.

'Codi pryderon'

Fe wnaeth cynrychiolwyr o Lenyddiaeth Cymru gwrdd â Mr Skates ddydd Mercher i leisio "pryderon difrifol ynghylch yr Adolygiad i Gyhoeddi a Llenyddiaeth."

Dywedodd llefarydd ar ran Llenyddiaeth Cymru: "Cafodd Llenyddiaeth Cymru gyfarfod gydag Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion ddoe (21 Mehefin) i godi pryderon difrifol ynghylch yr Adolygiad i Gyhoeddi a Llenyddiaeth.

"Ymhlith rhain, mae pryderon ynghylch y dystiolaeth a gynhigiwyd yn yr adolygiad a'i berthynas â'r argymhellion.

"Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o fod wedi cynnal, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, nifer o brosiectau sylweddol sydd wedi ehangu'r cyswllt â llenyddiaeth yn ei holl ffurfiau.

"Mae'r rhain yn cynnwys: Menter Datblygu Llenyddiaeth De Cymru, prosiectau cymunedol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Roald Dahl 100 Cymru, Bardd Cenedlaethol Cymru, Bardd Plant Cymru, Awdur Ieuenctid Cymru, Y Lolfa Lên, Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, Her 100 Cerdd, a datblygiadau newydd mewn twristiaeth lenyddol.

"Gan weithio'n agos ag ystod eang o awduron ac unigolion sy'n gweithio ym maes llenyddiaeth, mae Llenyddiaeth Cymru yn ymrwymedig i sbarduno a dathlu rhagoriaeth lenyddol, ymestyn y diffiniad o lenyddiaeth, ei ddemocrateiddio ac ehangu ei gyrhaeddiad.

"Mae Llenyddiaeth Cymru yn rhan o drafodaethau parhaus â'r rhanddeiliaid allweddol er mwyn datblygu strategaethau a fydd yn fuddiol i'r sector drwyddi draw".