'Angen addasu peiriannau ATM' i arbed cymunedau Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae angen agor canolfannau ariannol cynhwysfawr mewn ardaloedd o Gymru sydd wedi colli eu banciau, yn ôl arbenigwr.
Yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru mae'r pedwar prif fanc wedi cau 193 o ganghennau yng Nghymru ers 2010.
50 mlynedd ers i'r peiriannau twll yn y wal cyntaf gael eu cyflwyno yn y DU, mae banciau'n dweud eu bod yn addasu wrth i lawer mwy o bobl ddefnyddio'r we ar gyfer eu gwasanaethau.
Ond mae Ron Delevno o Gymdeithas y Diwydiant ATM yn dweud y gallai "cymunedau farw" os nad oes modd iddyn nhw barhau i ddefnyddio arian parod.
Cau canghennau
Dywedodd Ffederasiwn y Busnesau Bach fod busnesau annibynnol yn dibynnu ar fanciau am wasanaethau, a bod cyswllt band eang gwael mewn ardaloedd gwledig o'r wlad "yn achosi cryn drafferthion".
Erbyn diwedd y flwyddyn bydd 28 banc arall wedi cau yng Nghymru - 12 o rai Natwest, un gan Barclays, 14 o rai Lloyds, ac un gan HSBC - gan ddod â'r cyfanswm i 221 dros y saith mlynedd diwethaf.
Ar y llaw arall, yn ôl ffigyrau gan gwmni Link mae nifer y peiriannau ATM wedi cynyddu o 21% ers 2008, o 2,660 i 3,223.
Er bod banciau bellach yn annog cwsmeriaid i wneud mwy ar-lein, meddai Mr Delevno, mae llawer o drafodion busnes yn parhau i ddefnyddio arian parod ac mae angen i fusnesau allu cyrraedd y gwasanaethau perthnasol er mwyn goroesi.
Banciau sydd wedi cau yng Nghymru ers 2010
Mae Natwest - sydd dan berchnogaeth RBS - wedi cau 65 cangen yng Nghymru, wyth yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, ac yn bwriadu cau 12 arall cyn diwedd y flwyddyn;
Mae HSBC wedi cau 95 cangen, a dywedodd llefarydd eu bod yn bwriadu cau un arall erbyn Rhagfyr 2017;
Saith cangen y mae Lloyds wedi eu cau ers 2010, ond mae disgwyl i 14 yn rhagor gau erbyn diwedd y flwyddyn, gyda gwasanaeth bancio symudol ar gyfer y cymunedau fydd yn cael eu heffeithio;
Mae Barclays wedi cau 26 cangen yng Nghymru yn y saith mlynedd diwethaf a bydd cangen Clydach yn Abertawe yn cau ym mis Medi.
Yn ôl y banciau dyw penderfyniadau i gau canghennau ddim yn rai hawdd, ond mae galw am y gwasanaethau traddodiadol yn disgyn.
Mae llawer o'r gwasanaethau yn parhau i fod ar gael drwy Swyddfeydd Post, mewn partneriaeth â'r banciau.
Dywedodd Mr Delevno y dylai peiriannau twll yn y wal gynnig mwy o wasanaethau - fel gallu talu i mewn, newid siec, a chael cyngor ariannol - yn y dyfodol i gynorthwyo cymunedau sydd wedi eu gadael heb gangen banc.
Mae nifer o wledydd ar draws y byd eisoes yn caniatáu cwsmeriaid i ddefnyddio peiriannau ATM ar gyfer gwasanaethau fel talu rhai trethi, gwneud cais am drwyddedau neu brynu stampiau.
"Y broblem gyda chau canghennau yw bod hynny'n arwain at gymunedau'n cael eu chwalu," meddai Mr Delevno.
"Rydyn ni'n gwybod fod pobl yn mynd i lefydd eraill wedyn i dynnu arian allan.
"Mae'n bwysig iawn nad ydyn ni'n gweld cymunedau'n marw, ble mae pobl ond yn cysgu, [ble nad oes] busnesau, bwytai, siopau, unrhyw beth yn digwydd."
Ychwanegodd Mr Delevno fod peiriannau ATM ym Mhrydain ar y cyfan yn parhau i fod ar gyfer tynnu arian parod allan yn unig, ond y byddai'n hawdd i gymunedau gael canolbwynt ariannol ble byddai modd cael cyngor yn ogystal â gallu defnyddio peiriannau amlbwrpas fyddai'n darparu gwasanaethau mae banciau fel arfer yn ei wneud.
Mae llawer o wledydd hefyd yn defnyddio "ATMs ailgylchu" ble mae modd gollwng arian parod yn y peiriant, gydag eraill yn medru ei godi yn nes ymlaen - gan olygu mewn theori na ddylai peiriannau ATM fod yn brin o arian.
"Hyd yn oed os nad oes banc yno, dyw hi ddim yn golygu na ddylai'r gymuned allu cael arian parod a gwasanaethau eraill," meddai Mr Delevno.
"Allwn ni ddim dadlau gyda'r banciau, maen nhw eisiau mynd yn ddigidol, ond dyw pobl ddim yn barod ar ei gyfer."