Huw Edwards yn achub y dydd!
- Cyhoeddwyd
A dyma'r newyddion... mae gan drefnwyr noson gymdeithasol ym Maenclochog, Sir Benfro le i ddiolch i Huw Edwards, cyflwynydd BBC News at Ten.
Roedd y cyflwynydd wedi cael ei wahodd i'r pentre yn Sir Benfro i gyflwyno darlith yn seiliedig ar ei lyfr am gapeli Cymraeg Llundain ar nos Wener 23 Mehefin.
Yn ei helpu i gyfleu ei straeon roedd y gantores leol Delun Gibby. Roedd hi'n canu caneuon oedd yn gysylltiedig â chapeli Cymraeg y ddinas i gyfeiliant ei thad ar y gitâr.
Roedd Delun yn awyddus i ganu emyn enwog Elfed 'Rho i'm yr hedd'. Roedd yr Archdderwydd wedi bod yn weinidog yn Llundain am 40 mlynedd. Ond roedd 'na broblem. Roedd angen pianydd ar Delun.
Y newyddiadurwr Hefin Wyn, un o drefnwyr y noson, sy'n egluro beth ddigwyddodd wedyn.
"Ro'dd Delun yn gwybod bod Huw Edwards yn organydd o fri ac yn chwarae'r offeryn yn rheolaidd yng ngwasanaethau Capel Jewin, Llundain. Edrychodd y ferch ifanc i fyw llygaid Huw a gofyn iddo yn chwareus a fyddai'n fodlon cyfeilio ar y piano iddi hi.
"Edrychodd Huw o'i gwmpas yn gyflym yn y gobaith y bydde' cyfeilydd arall yn gwirfoddoli gan ofyn "Do's neb arall i'w gael yma 'te?"
"Ro'dd Delun yn parhau i syllu arno gyda llygad llo gan erfyn arno i dderbyn yr her. 'Whare teg iddo fe, fe gododd ar ei draed a chamu at yr offeryn gan gyfeilio'r emyn-don 'Rhys' yr un mor ddeheuig â ro'dd e wedi darlithio ychydig ynghynt.
"Fe orffennodd y noson gydag arddeliad trwy chwarae 'Hen Wlad fy Nhadau'. 'Na fachan yw'r crwt o Langennech!"