Ateb y Galw: Osian Williams
- Cyhoeddwyd
Osian Williams, prif leisydd Candelas sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddo gael ei enwebu gan Alys Williams yr wythnos diwethaf.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Rhedeg fyny a lawr rhyw goridor yn ein cartref cynta'....Oriau o hwyl!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Eden
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Rhedeg i ffwrdd wrth Mam am wneud rhywbeth drwg wedyn troi rownd a gweiddi rheg arni pan o'n i'n ofnadwy o ifanc! Dwi dal yn cael hunllefau am y peth!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Bod yn rhan o daith 'Cadw'r Flam yn Fyw' hefo Cwmni Theatr Maldwyn. Oedd yr holl brofiad mor fawreddog ac emosiynol - o'n i'n crio tu ôl y dryms ar ôl pob sioe.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Na dim felly.... Dwi'n cnoi fy ngwinedd ond fel arall dwi'n berson reit lân.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Llanuwchllyn - pobl dda, tafarn dda.... Be' arall ma' rhywun isio?
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Gig Candelas hefo'r gerddorfa llynedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Amyneddgar, distaw a chyfeillgar
Beth yw dy hoff lyfr?
Dydw i ddim yn darllen llyfrau yn aml ond y dwytha i mi ei ddarllen oedd 'The Fault In Our Stars' gan John Green a mi wnes i ei fwynhau yn arw.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
John Bonham - jysd i gael siarad am ddryms trwy'r nos a wrach dysgu rhywbeth geno fo.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
'Little Boxes' ar Netflix. O'n i hefo fy nghariad yn y gwely isio rhywbeth i wylio a dyma nghariad i'n cysgu ar ôl chwarter awr... Dwi'n difaru fyswn i wedi gneud yr un peth. Peidiwch â gwastraffu eich amser yn gwylio hon bawb!
Dy hoff albwm?
The Trials of Van Occupanther gan Midlake
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be' fyddai'r dewis?
Pwdin - Cacen Gaws
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Beyonce! A 'swn i'n canu a dawnsio trw'r dydd.
Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Dafydd Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog)