Dyn dal yn fyw adeg ymosodiad Finsbury Park
- Cyhoeddwyd
Clywodd cwest fod dyn a fu farw mewn ymosodiad terfysgol yn Llundain yn dal yn fyw pan gafodd ei daro gan fan.
Cafodd Makram Ali, 51 oed, ei daro gan fan y tu allan i Fosg yn Finsbury Park ar 19 Mehefin.
Mae Darren Osborne, 47 oed o ardal Pentwyn yng Nghaerdydd, wedi bod o flaen ynadon wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth a cheisio llofruddio.
Fe aeth Mr Osborne gerbron yr Old Bailey ddydd Mawrth wedi ei gyhuddo o ladd Mr Ali ac o geisio lladd pobl eraill.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa i ymddangos yn llys eto ar 20 Gorffennaf.
Cafodd naw o bobl eu hanafu yn yr ymosodiad.
Clywodd y cwest yn Llundain ei bod hi'n debyg fod Mr Ali wedi dioddef pwl meddygol cyn y digwyddiad.
Dywedodd y ditectif arolygydd Edwin Hall o Heddlu'r Met eu bod y trin y digwyddiad fel achos o derfysgaeth.
Fe ddangosodd archwiliad post mortem fod Mr Ali wedi farw o gyfres o anafiadau.
Yn ôl teulu Mr Ali, roedd o wedi syrthio i'r llawr oherwydd problem gyda choes wan, ond roedd ar ei eistedd ac wedi dweud ei fod eisiau mynd adref pan ddigwyddodd yr ymosodiad.
Cafodd y cwest ei agor a'i ohirio tan fod y broses gyfreithiol wedi ei gwblhau.