Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen yn dathlu 70 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae'n ddiwrnod cyntaf cystadlu Eisteddfod Rhyngwladol Langollen, ac eleni mae'r ŵyl yn dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed.
Bydd y pafiliwn yn croesawu rhai o berfformwyr mwyaf llwyddiannus Cymru gan gynnwys Syr Bryn Terfel a'r Manic Street Preachers.
I'r Cyfarwyddwr Cerdd, Eilir Owen Griffiths mae'r steddfod yn ddathliad arbennig ac yn ddiwedd cyfnod hefyd.
Ar ôl chwe blynedd yn swydd, fe fydd Cyfarwyddwr Cerdd ieuengaf erioed yr Eisteddfod, yn gadael yr ŵyl i ganolbwyntio ar ddatblygiadau newydd o fewn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Beth yw arwyddocâd y pen-blwydd iddo felly?
"Mae'r pen-blwydd yn gyfle i gofio neges heddwch yr ŵyl," meddai. "Ambell waith fe welwch chi grwpiau o wledydd gwahanol sydd wedi bod yn rhyfela a'i gilydd - ac yn gweld ei gilydd ar y maes ac yna yn cystadlu yn iach yn erbyn ei gilydd.
"Mae eisteddfodau yn dod a chymunedau yn agosach at ei gilydd. Yma mae hynny yn digwydd ar lefel rhyngwladol hefyd."
Sefydlwyd yr eisteddfod yn 1947. Yn dilyn erchyllterau'r ail ryfel byd fe aeth y Cyngor Prydeinig a nifer o drigolion Llangollen ati i drefnu gŵyl a fyddai yn medru gwella "creithiau'r Ail Ryfel Byd, a hyrwyddo heddwch byd."
Erbyn hyn mae'n gan yr eisteddfod le unigryw yn y calendr celfyddydol yng Nghymru ac mae 'r lleoliad parhaol yn gyfrifol am awyrgylch unigryw'r ŵyl, yn ôl y Cyfarwyddwr Cerdd.
"Yn wahanol i'r Eisteddfod Genedlaethol mae wedi ei lleoli yn yr un lle ac felly mae'n methu targedu gwahanol gymunedau yng Nghymru - ni'n tapio mewn i'r un gymuned yn lleol."
'Agor y llwyfan i bawb'
Yn ei gyfnod wrth y llyw mae Eilir Owen Griffiths wedi denu enwau mawr i berfformio ar y llwyfan gan gynnwys Status Quo, UB40, Burt Bacharach a Jools Holland.
"Y briff ges i oedd adeiladu ar gynulleidfa gyda'r hwyr" meddai.
Mae wedi bod yn flaenoriaeth hefyd "agor y llwyfan i bawb".
Ymhlith yr uchafbwyntiau iddo oedd sefydlu Côr Plant y Byd, ac ehangu cyfleoedd i bobl - yn enwedig i bobl ifanc o gefndiroedd gwahanol arddangos eu talentau ar y llwyfan.
"Mae llwyfan yma i bawb," meddai, "nid dim ond i'r perfformwyr mawr rhyngwladol."