Cyhoeddi enw dylunydd buddugol Coron Eisteddfod 2018

  • Cyhoeddwyd
Laura ThomasFfynhonnell y llun, Laura Thomas

Gemydd o Gastell-nedd fydd yn dylunio'r goron ar gyfer Eisteddfod 2018 yng Nghaerdydd.

Fe gafodd Laura Thomas, 34, ei dewis yn dilyn cystadleuaeth i ddod o hyd i'r dyluniad gorau.

Dywedodd Ms Thomas y bydd yn ceisio creu coron "modern ac unigryw".

Daw hyn ddyddiau wedi i'r Eisteddfod gyhoeddi'n swyddogol y bydd y brifwyl yn dod i'r brifddinas.

'Aros yn y cof'

Dywedodd Ms Thomas sy'n gweithio i gwmni gemwaith yn Llandeilo, Sir Gâr, bod creu coron yn uchelgais iddi.

"Gyda lwc, bydd yn creu canolbwynt unigryw ar gyfer yr Eisteddfod fydd yn aros yn y cof", meddai.

"Rwy'n mynd i'r Eisteddfod bob blwyddyn ac fe wnes i chwarae'r recorder yno unwaith pan oeddwn yn yr ysgol gynradd!"

Ffynhonnell y llun, Laura Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Laura Thomas wrth ei gwaith

Dywedodd hefyd y bydd yn defnyddio techneg parquet - ble mae pren yn cael ei roi tu fewn i ddeunydd arian - ar y goron derfynol.

"Rydyn ni'n cau pen y mwdwl ar y dyluniad ar hyn o bryd. Rydw i wedi gweld llawer o luniau o'r Goron, ond dydw i heb weld un sy'n cynnwys y dechneg yma o'r blaen," meddai.

Fel arfer, mae'r prifardd buddugol yn cael ei goroni ar ddydd Llun yr Eisteddfod.

Prifysgol Caerdydd fydd yn noddi dylunio a chreu'r goron ar gyfer Eisteddfod 2018.

Fe fydd Eisteddfod Caerdydd yn cael ei chynnal yn ardal y Bae rhwng 3-11 Awst.