Merched o Ogledd Iwerddon i gael erthylu yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Bydd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn talu am erthyliadau i ferched o Ogledd Iwerddon, yn ôl y prif weinidog.
Daw hynny wedi penderfyniad llywodraeth y DU y byddai'r GIG yn Lloegr hefyd yn gwneud hynny, ar ôl i rai ASau fygwth gwrthryfela yn erbyn y llywodraeth.
Roedd pryder gan rai ASau oherwydd cytundeb llywodraeth y DU gyda phlaid y DUP, sydd am weld rheolau llymach ynghylch erthyliadau yng Ngogledd Iwerddon.
Dywedodd Carwyn Jones wrth Aelodau Cynulliad y dylai Cymru gynnig yr un peth a Lloegr a'r Alban.
Rheolau mwy llym
Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth dros 50 o ASau gefnogi galwad gan y blaid Lafur i ganiatáu i ferched o Ogledd Iwerddon gael erthyliad yn Lloegr.
Cytunodd gweinidogion y DU oherwydd pryder y byddai rhai ASau Torïaidd yn cefnogi'r alwad, gan arwain at golled i lywodraeth Theresa May yn y bleidlais wedi araith y Frenhines.
Mae rheolau ynghylch erthylu yn llawer mwy llym yng Ngogledd Iwerddon na gweddill y DU.
Dim ond os yw bywyd dynes mewn perygl, neu mae perygl o niwed difrifol i'w hiechyd, y mae erthyliad yn cael ei ganiatáu.
Cyn y cyhoeddiad, byddai'n rhaid i ferched o Ogledd Iwerddon deithio i Loegr am erthyliad gan wasanaeth preifat, ond ni fyddai ar gael gan y GIG.
Dywedodd AS Llafur, Stella Creasy, bod hynny'n costio hyd at £1,400.
'Yn falch'
Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, godi'r mater yn y Cynulliad ddydd Mawrth, gan ofyn a fyddai gwasanaeth tebyg yng Nghymru.
Dywedodd Mr Jones: "Rydyn ni'n edrych yn ofalus ar sut y gallwn ni wneud hynny, ond rydyn ni am sicrhau bod yr un gwasanaeth a Lloegr a'r Alban ar gael yng Nghymru.
"Mae rhai problemau, fel costau teithio a sut i gynnig gofal wrth fynd ymlaen... ond rydyn ni'n ystyried y materion yma."
Dywedodd MS Wood ei bod yn "falch" gyda'r cyhoeddiad.