'Angen gweithredu'n gynt' i dorri allyriadau carbon
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd wedi dweud bod angen gweithredu'n llawer cyflymach i dorri allyriadau carbon, yn dilyn rhybuddion y bydd targedau yn cael eu methu.
Bydd galw ar gyrff cyhoeddus i ddangos arweiniad, ac anelu at fod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Fe fydd disgwyl iddyn nhw leihau allyriadau drwy edrych ar eu prosesau caffael a'u defnydd o dir, ynni a thrafnidiaeth.
Dywedodd Lesley Griffiths wrth BBC Cymru ei bod hi'n awyddus i annog arfer da, ond y gallai ystyried cyflwyno cosbau "maes o law".
Daw hyn lai nag wythnos ers i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd - sy'n cynghori llywodraeth Prydain a'r gwledydd datganoledig - rybuddio na fyddai nod arall i dorri allyriadau Cymru 40% o lefelau 1990 erbyn 2020 yn cael ei gyrraedd.
Yn 2015 roedd allyriadau Cymru 20% yn llai na lefelau 1990, o'i gymharu â 38% ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd.
Mynnodd Ms Griffiths na fyddai hi'n newid nac yn cael gwared ar y targed am "na fyddai hynny yn dangos arweiniad da".
"Gyda thair blynedd yn weddill dwi eisiau sicrhau ein bod hi'n cyrraedd y targed ond mae angen i ni weithio yn llawer cyflymach a dyma pam dwi'n holi barn heddiw," meddai.
Mae'r llywodraeth yn gofyn am ymateb gan gyrff cyhoeddus ynglŷn â'r ffyrdd gorau o sicrhau eu bod yn garbon niwtral erbyn 2030, gan gynnwys a ddylai targedau interim gael eu cyflwyno a sut y dylai cynnydd gael ei fesur a'i fonitro.
Y sector cyhoeddus
Bydd £2m y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi mewn adnabod a chefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni o fewn y sector cyhoeddus.
Mae allyriadau o gyrff cyhoeddus - gan gynnwys ysgolion, ysbytai a chynghorau lleol - yn cyfri am ond 1% o ôl troed carbon Cymru.
Diwydiannau trwm a chynhyrchwyr ynni sy'n rhyddhau'r mwyaf o nwyon tŷ gwydr, tra bod arbenigwyr newid hinsawdd yn dadlau bod gan fyd amaeth a'r cyhoedd yn eu cartrefi a'u ceir rôl bwysig i'w chwarae hefyd.
Er hynny, y ddadl dros ganolbwyntio ar y sector cyhoeddus yw ei fod "mewn sefyllfa unigryw i arbrofi a chynnig esiamplau o arfer da sy'n gallu dylanwadu allyriadau yn fwy eang," yn ôl Lesley Griffiths.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) - y corff mwyaf i gael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru - wedi bod yn cynnal ymchwil ynglŷn â'i ôl troed carbon, ac mae bellach yn cyflwyno nifer o brosiectau arddangos allai gael eu hailadrodd ar draws y sector cyhoeddus.
Ymysg y prosiectau mae prynu ceir trydan fel cerbydau'r cwmni a chyflwyno pwyntiau gwefru yn eu safleoedd.
Mae 'na waith yn digwydd hefyd i adfer tiroedd mawn ar ystâd y sefydliad, sy'n gallu dal carbon a'i storio yn y ddaear.
'Dysgu gan CNC'
Dywedodd Anna Jones, un o reolwyr prosiect Carbon Positif CNC wrth BBC Cymru: "Mae'r prosiect yn edrych ar allyriadau ar draws ein hystrad - o'r adeiladau, trafnidiaeth a'r nwyddau da ni'n eu prynu.
"Ond hefyd y carbon sy'n cael ei storio yn ein cynefinoedd.
"Y gobaith yw y bydd y sector cyhoeddus yn ehangach yn gallu dysgu o hynny a defnyddio negeseuon yr ymchwil yn eu gwaith eu hunain."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2017