Chwaer April Jones: 'Cydweithiwch â helwyr pedoffiliaid'

  • Cyhoeddwyd
Jazmin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jazmin Jones ei bod hi'n deall pam fod rhai 'helwyr pedoffiliaid' eisiau helpu

Dylai'r heddlu gydweithio â 'helwyr pedoffiliaid' wrth chwilio am droseddwr ar-lein, yn ôl chwaer April Jones.

Dywedodd Jazmin Jones ei bod hi'n deall pam fod rhai pobl yn awyddus i ddal troseddwyr.

Ond roedd rhai technegau yn medru bod yn rhwystr i'r heddlu wneud eu gwaith, meddai, a dylai swyddogion roi cyngor ar sut i helpu.

Mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud ei bod hi'n amhriodol i'r cyhoedd wneud gwaith cudd o'r fath.

Yn lle hynny, mae'r awdurdodau yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i'w phasio ymlaen iddyn nhw.

'Amddiffyn plant'

Daeth sylwadau Miss Jones fel rhan o raglen Week In Week Out BBC Cymru oedd yn cynnwys galwadau gan grwpiau "helwyr pedoffiliaid" i gael mwy o rôl wrth daclo cam-drin plant ar-lein.

Wrth siarad ar raglen Jason Mohammad ar BBC Radio Wales ddydd Iau, dywedodd Miss Jones y dylai'r heddlu wneud mwy i gydweithio gyda'r grwpiau hynny.

"Dwi'n deall fod y bobl yma eisiau pedoffiliaid oddi ar y strydoedd achos maen nhw'n amddiffyn eu plant eu hunain a phlant eu teuluoedd," meddai.

"[Ond] mae cymaint o bethau allai fynd o'i le os nad yw'r heddlu yn camu mewn a helpu."

Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth April Jones ar goll ym mis Hydref 2012, a dyw ei chorff byth wedi cael ei ganfod

Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl fod angen i'r heddlu eistedd lawr gyda phobl o'r grwpiau yma... a siarad am beth sy'n mynd 'mlaen, dweud 'er mwyn eu dedfrydu mae'n rhaid i chi wneud hyn, hyn a hyn, ac allwch chi ddim gwneud hyn'."

Fe aeth April Jones, oedd yn bump oed ar y pryd, ar goll ar 1 Hydref 2012 ym Machynlleth, ond er y chwilio eang a ddaeth wedi hynny, dyw ei chorff erioed wedi cael ei ganfod.

Roedd gan Mark Bridger, gafodd ei ganfod yn euog o'i llofruddio yn 2013, gannoedd o luniau o blant yn cael eu cam-drin ar ei gyfrifiadur, ac roedd wedi cysylltu â merched ifanc ar-lein.

Ers ei marwolaeth, mae'r teulu wedi ymgyrchu ar faterion yn ymwneud â throseddwyr rhyw.

Arian ychwanegol

Mae cyn-bennaeth yr Asiantaeth Amddiffyn Ar-lein ac Ecsploetiaeth Plant, Jim Gamble wedi dweud nad oes digon o swyddogion yn gweithio'n gudd i ddal pedoffiliaid ar-lein, gan alw am 1,500 o wirfoddolwyr ychwanegol i helpu.

Dyw Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ddim wedi rhoi union ffigyrau nifer y swyddogion sydd yn gwneud y math yna o waith.

Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud eu bod wedi rhoi £30m yn ychwanegol i'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol er mwyn taclo cam-drin plant ar-lein.