Yr Ysgrifennydd Cyllid yn gwrthod galwad i godi cyflogau
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Cyllid Cymru wedi gwrthod galwadau i ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru i ddiddymu'r uchafswm codiadau cyflog i weithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Dywedodd Mark Drakeford "nad oedd e'n weithred gyfrifol i ddefnyddio arian Cymru lle dylai arian Llywodraeth y DU gael ei wario".
Yn y cyfamser mae cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru wedi rhybuddio bod y cyfyngiad o 1% ar godiadau cyflog yn "gorfodi gweithwyr i mewn i dlodi".
Dywedodd Llywodraeth y DU mai Llywodraeth Cymru sy'n penderfynu ar bolisi gweithwyr sector cyhoeddus mewn gwasanaethau sydd wedi'u datganoli, a bod ei pholisi cyflog ei hun "wedi'i gynllunio i fod yn deg".
Mae cyflogau'r sector cyhoeddus naill ai wedi'u rhewi neu wedi'u cyfyngu i gynnydd o 1% ers 2010.
£110 miliwn
Fe allai Llywodraeth Cymru ymwahanu o bolisi Llywodraeth y DU, ond heb arian ychwanegol o'r Trysorlys fe fyddai'n rhaid iddi ddod o hyd i'r arian o'i chyllideb bresennol.
Wrth siarad gyda rhaglen Sunday Politics BBC Cymru, dywedodd Mr Drakeford: "Nid yw'n weithred synhwyrol i mi wario arian Cymru lle dylai arian llywodraeth y DU gael ei wario.
"Y ffordd i wneud hyn yw rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU a dweud 'nawr yw'r amser i wneud hyn - codwch y cyfyngiad a rhowch yr arian i ni wneud hyn yng Nghymru'."
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai codi cyflogau'r sector cyhoeddus o 1% yn ychwanegol yn costio tua £110m, a bod angen £60m ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn unig.
Ond dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wrth y rhaglen y dylai Llywodraeth Cymru godi'r cyfyngiad ar weithwyr sector cyhoeddus yng Nghymru gan ddechrau gyda staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
"Os yw hyn yn flaenoriaeth i Lafur drwy'r DU fe ddylai fod yn flaenoriaeth i Lafur yng Nghymru hefyd, felly ry'n ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i godi'r cyfyngiad," meddai.
"Ry'n ni wedi amcangyfrif mai'r gost o wneud hyn fydd tua £60m. Mewn cyllideb o £60bn mae modd dod o hyd i'r arian os yw'n flaenoriaeth wleidyddol."
'Gwarthus'
Mae cymdeithas feddygol y BMA wedi cefnogi galwad Ms Wood, ond dywedodd cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, Tina Donnelly wrth Sunday Politics mai "nid mater i weinyddiaeth ddatganoledig yw dweud eu bod am godi'r cyfyngiad oherwydd gallan nhw ddim fforddio hynny".
Dywedodd Ms Donnelly bod nyrs ar gyfartaledd wedi colli £3,000 o'u cyflogau blynyddol oherwydd y cyfyngu ar godiadau cyflog.
"Mae hyn yn gorfodi gweithwyr y sector cyhoeddus i mewn i dlodi," meddai.
"Ry'n ni'n byw mewn gwlad gyfoethog ac mae'n bosib dod o hyd i arian i wneud pethau eraill, felly pam nad yw'n bosib dod o hyd i arian i dalu cyflog i weithwyr y sector cyhoeddus sy'n gymesur â chost byw o leia'.
"Ry'n ni'n gweld nyrsys yn y GIG sy'n gwneud swyddi eraill ar ddyddiau i ffwrdd er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd, neu yn mynd i fanciau bwyd. Mae'n warthus."
Sunday Politics Wales, BBC One Wales ddydd Sul, 9 Gorffennaf am 11:00.