Oriel luniau Ynys Môn // Anglesey photo gallery
- Cyhoeddwyd

Goleudy Ynys Lawd, Caergybi yn goleuo'r ffordd i'r fferis ar draws Môr Iwerddon // South Stack Lighthouse, Holyhead guides the ferries safely across the Irish Sea

Mae Gwarchodfa Natur Leol Nant-y-Pandy yn Llangefni yn lle gwych i fynd am dro ar y beic // Grab your mountain bike and head to Dingle Local Nature Reserve in Llangefni

Awydd trio hwylfyrddio? Rhosneigr ydy'r lle i chi! // Luckily, there's enough wind in Rhosneigr for you to try your hand at windsurfing

Well i chi fihafio, neu gewch chi eich taflu i Garchar Biwmares // Beaumaris Gaol was built in 1829 to house the island's criminals, but is now a popular tourist destination

Mae'r siambr gladdu Neolithig, Presaddfed, dafliad carreg o safle'r Eisteddfod ym Modedern // This Neolithic burial chamber is located near the Eisteddfod Maes at Bodedern

Pont Borth - golygfa gyfarwydd i nifer, wrth i filoedd heidio i'r ynys ar gyfer Eisteddfod eleni! (Ond fydd pobl yn dod mewn canŵ?!) // Menai Suspension Bridge will be a familiar sight to many - even more so after coming to Eisteddfod this year!

Dechreuodd Edward I adeiladu Castell Biwmares yn 1295, fel rhan o'i ymgais i goncro gogledd Cymru // As well as Beaumaris Castle, Edward I also built castles at Caernarfon, Harlech and Conwy

Mae Capel Llugwy ger Moelfre yn dyddio o'r 12fed ganrif, ond nid yw wedi cael ei ddefnyddio fel addoldy ers y 18fed ganrif // Capel Lligwy, near the village of Moelfre, is a 12th century chapel that is now protected by Cadw

Cafodd Melin Llynnon yn Llanddeusant ei adeiladu yn 1775, a bellach, dyma'r unig felin gweithredol yng Nghymru // Llynnon Mill, Llanddeusant is Wales' only working mill, and produces stoneground wholemeal flour

Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn 125 milltir o brydferthwch a golygfeydd anhygoel // Walking all around the coastline of Anglesey will take you around 12 days, but you will be rewarded with stunning views at every turn

Mynydd Parys ger Amlwch oedd y gwaith mwyngloddio copr mwyaf yn y byd yn ystod yn 18fed ganrif // During the 18th century, Parys Mountain, near Amlwch, was an incredibly busy copper mine

Ynys Llanddwyn - man mwyaf rhamantus Cymru? // Llanddwyn Island, near Newborough, is famous for the legend of Dwynwen, the Welsh patron saint of lovers

Mae digon i'w weld a'i fwynhau ym Mharc Gwledig Morglawdd Caergybi, nid nepell o safle'r Steddfod // Holyhead Breakwater Country Park has a lot to offer, and isn't too far away from the Eisteddfod Maes

Mae'r bont - a adeiladwyd gan Thomas Telford yn y 19eg ganrif - yn drawiadol mewn unrhyw olau // Menai Bridge has been transporting travellers between the island and the mainland since it opened in 1826