Beirniadu CNC am adar marw ar safle saethu ym Mhowys

  • Cyhoeddwyd
FfesantFfynhonnell y llun, Animal Aid
Disgrifiad o’r llun,

Ffesant ifanc yn sownd ger gwifrau ar y safle

Mae elusen yn honni bod adar yn "dioddef yn erchyll" ar safle sy'n eiddo i asiantaeth amgylcheddol Cymru.

Yn ôl Animal Aid, daethon nhw o hyd i ddegau o ffesantod marw ar safle Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ym Mhowys.

Dywedodd CNC bod y tenant sy'n rhedeg y safle saethu adar yng Nghwm Gwnen ger Llanfyllin "wedi ymateb" i'r pryderon.

Ond mae'r elusen yn dweud bod "cwestiynau difrifol i'w hateb".

CNC 'ddim mewn rheolaeth'

Daeth ymchwilydd Animal Aid o hyd i "35-40 o ffesantod ifanc yn farw ar lawr" ar y safle ar 19 Mehefin, ynghyd â phedwar arall yn farw'n sownd mewn gwifrau.

Cafodd yr adar eu magu er mwyn cael eu saethu ar y safle. Ar hyn o bryd mae CNC yn adolygu'r defnydd o ddrylliau ar eu tir.

"Mae cwestiynau difrifol i'w hateb am sut a pham y bu cymaint o adar ifanc farw," meddai Isobel Hutchinson, cyfarwyddwr Animal Aid.

"Mae saethu adar fel gêm yn greulon yn ei hun, ond mae ein hymchwiliadau yn awgrymu'n gryf nad ydy CNC yn ymwybodol, neu ddim mewn rheolaeth, o'r hyn sy'n digwydd ar stadau CNC."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Steve Cresswell o CNC: "Fe gysyllton ni â'r tenant yn syth i godi pryderon Animal Aid gyda nhw, a'u gorfod i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau, fel sydd wedi'i nodi yn ein cytundeb tenantiaeth.

"Fe ymatebodd y tenant yn sydyn ac rydyn ni'n hapus bod unrhyw broblemau wedi'u cywiro."

Ychwanegodd bod adolygiad arall yn cael ei gynnal "i sicrhau bod drylliau'n cael eu defnyddio am y rhesymau cywir, yn yr amgylchiadau cywir ac yn y ffordd fwyaf cynaliadwy posib."

Dywedodd y bydd CNC yn rhyddhau datganiad ar y mater y flwyddyn nesaf.