Cadarnhau grant loteri o £3.5m i adfer rhan o Gaernarfon

  • Cyhoeddwyd
Grant LoteriFfynhonnell y llun, Purcell
Disgrifiad o’r llun,

Delwedd artist o'r cynlluniau yng Nghaernarfon

Fe fydd un o drefi arfordirol Gwynedd yn derbyn hwb sylweddol yn yr ymdrech i adfywio rhan o'r dref sydd wedi bod yn adfeilio dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri wedi cadarnhau y bydd ardal Cei Llechi yng Nghaernarfon yn derbyn grant o £3.5m, fel y gellir adfer y rhan o'r dref a fu unwaith yn llawn prysurdeb diwydiannol, i'w lawn ogoniant.

Bydd yr arian yn mynd at adfywio'r hen gei llechi ar lannau'r dŵr yng Nghaernarfon, a'i drawsnewid yn ddatblygiad o weithdai a llecynnau ar gyfer dylunwyr bychain, a llety ymwelwyr.

Ffynhonnell y llun, Cronfa Treftadaeth y Loteri
Disgrifiad o’r llun,

Bydd ardal Gefail yr Ynys yn derbyn grant o £3.5m

Hybu economïau

Caiff y prosiect ei ariannu trwy'r Rhaglen Menter Treftadaeth - a sefydlwyd i gefnogi twf economaidd trwy fuddsoddi mewn adeiladau hanesyddol segur a'u gwneud yn addas i'w hail-ddefnyddio eto.

Fe gafodd y cyhoeddiad ei wneud ddydd Mawrth gan Syr Peter Luff, Cadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri, wrth iddo ymweld â'r safle eiconig.

Dywedodd Syr Peter: "Gall treftadaeth drawsnewid ardaloedd a'u gwneud yn well lleoedd i fyw a gweithio ynddynt ac ymweld â nhw.

"Dyna pam ei fod yn gwbl allweddol ein bod yn parhau i sicrhau dyfodol y dreftadaeth sydd wrth galon ein cymunedau.

Ffynhonnell y llun, Google

"Mae prosiectau treftadaeth fel hwn yng Nghaernarfon nid yn unig yn creu swyddi, cefnogi sgiliau a rhoi hwb i'r economi leol, maen nhw hefyd yn gwneud gwahaniaeth parhaol i fywydau pobl trwy greu cadarnleoedd economaidd newydd.

"Mae asedau treftadaeth ein cymunedau, felly, mor berthnasol heddiw ag yr oedd eu rhagflaenwyr ganrif a mwy yn ôl."

Cadeirydd Ymddiriedolaeth yr Harbwr, y Cynghorydd Ioan Caredig Thomas, sy'n esbonio'r weledigaeth ar gyfer y safle: "Lle ar un adeg y cawsai llechi eu dadlwytho cyn cael eu danfon i bedwar ban byd ar gyfer toi tai, ac y cawsai haearn ei yrru cyn cael ei ddefnyddio mewn adeiladau hanesyddol fel Tŵr Llundain ac Abaty Westminster gan Weithiau Haearn Brunswick, erbyn hyn gall glannau'r dŵr yng Nghaernarfon fod yn gartref eto i grefftwyr Cymreig yr 21ain ganrif."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ardal yn atyniad i ymwelwyr gyda'r castell yn agos

Ffynhonnell y llun, Purcell

"Rydym wrth ein boddau fod Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi cydnabod potensial cyffrous datblygiad Cei Llechi. Bydd rhoi ail-fywyd i'r adeiladau diffaith hyn nid yn unig yn creu swyddi ac yn cryfhau'r economi leol trwy gynnig atyniad ychwanegol i bobl leol ac ymwelwyr, ond bydd hefyd yn helpu sicrhau dyfodol glannau'r dŵr a chanol tref hanesyddol Caernarfon." ychwanegodd y Cyng. Thomas.

Mae Ymddiriedolaeth yr Harbwr yn gofalu am nifer o adeiladau treftadaeth o bwys ar lannau'r afon o Ddoc Fictoria i Gei Llechi. Mae hefyd yn rheoli Marina Doc Fictoria ar ran Cyngor Gwynedd.