Pedwar cyhoeddwr i greu llyfrau i ddysgwyr
- Cyhoeddwyd

Mae'r Cyngor Llyfrau yn dweud bod pedwar o gyhoeddwyr blaenllaw wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais i gyhoeddi llyfrau ar gyfer dysgwyr.
Y pedwar cwmni sydd wedi bod yn llwyddiannus yw Atebol, CAA (Cyhoeddwr Adnoddau Addysg, Prifysgol Aberystwyth), Gwasg Gomer a'r Lolfa, ac fe fydd 20 o lyfrau i ddysgwyr yn cael eu cyhoeddi dros y 18 mis nesaf.
Mae cynhadledd wedi ei drefnu i gyhoeddwyr a'u hawduron ddysgu rhagor am y gwaith o baratoi llyfrau i ddysgwyr yn yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd ddydd Mercher.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi buddsoddi £120,000 yn y prosiect dros y 18 mis nesaf, er mwyn sicrhau darpariaeth newydd o lyfrau i ddysgwyr i gyd-fynd â gweithredu cwricwlwm newydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
'Dechrau newydd i'r maes'
Dywedodd Helgard Krause, prif weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, sydd ei hun wedi dysgu Cymraeg: "Mae hwn yn gyfle gwych i ddarparu nifer dda o lyfrau newydd i gynulleidfa sy'n hanfodol i'r farchnad lyfrau Gymraeg.
"Bydd modd i ddysgwyr cyfredol, pobl sydd wedi cefnu ar ddysgu neu bobl sydd yn rhugl ond yn llai hyderus wrth ddarllen, droi at y llyfrau hyn.
"Dim ond 49 o lyfrau hamdden i ddysgwyr a gyhoeddwyd yn yr 20 mlynedd cyn hyn, a hynny i amrywiaeth o safonau.
"Mae datblygu'r cwricwlwm newydd yn gyfle gwych i gyhoeddi nifer dda o lyfrau newydd a rhoi dechrau newydd i'r maes, a chynorthwyo i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg."

Fe fydd yr 20 llyfr yn cynnwys pob math o ddeunydd - straeon, nofelau byrion, cofiannau, llyfrau am hanes Cymru, a llyfrau teithio.
Bydd nifer o awduron yn ymgymryd â'r gwaith, gan gynnwys enwau newydd yn ogystal â rhai adnabyddus.
Yn eu plith bydd Zoe Pettinger, Rhodri a Lucy Owen, Bethan Gwanas a Manon Steffan Ros.
Mae disgwyl y bydd y llyfrau yn cael eu cyhoeddi rhwng Ionawr a Hydref 2018.