Pen-blwydd hapus Hywel!
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyflwynydd bytholwyrdd Hywel Gwynfryn yn dathlu carreg filltir nodedig ar Gorffennaf 13. Mae o'n 75 oed. Pwy fasa'n meddwl.
Pen-blwydd hapus Hywel!

Mae hi'n teimlo mwy fel heddiw pan oedd o'n ohebydd ifanc ar... Heddiw!

Pen dafad? Blasus iawn!

Mae'r llun yma yn ddu a gwyn gan bod y tei yn llawer rhy llachar!

Y troellwr disgiau barfog yn nyddiau Helo Bobol

Hywel ac un o'i westeion wrth y bwrdd brecwast cynnar

Bob Dylan y canwr enwog o Langefni

Hywel yn chwarae rhan bwtler yn Haf o Hyd. Yn anffodus wnaeth o ddim ennill Oscar fel Hugh Griffith

Un o'r wythdegau. Am faint fuodd o yn y stafell wisgo yn cael g'neud y gwallt 'na?

Does dim angen awyren yn nôl i Fôn ar Hywel. Efo'r goler yna mi fydd o wedi hedfan i'r Fali mewn chwinciad

Darlledu yn y gwaed: Hywel yn ei elfen yn darlledu o Eisteddfod yr Urdd 2017 yng nghwmni Rhiannon Lewis