Staff Cynulliad 'angen Cymraeg sylfaenol' o 2018 ymlaen
- Cyhoeddwyd
Bydd angen o leiaf lefel sylfaenol o Gymraeg ar gyfer pob swydd newydd yn y Cynulliad o haf 2018 ymlaen.
Dywedodd Adam Price AC, y comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros ieithoedd swyddogol, y bydd angen "cwrteisi ieithyddol sylfaenol".
Mae hynny, meddai, yn golygu "y gallu i adnabod, ynganu a defnyddio ymadroddion ac enwau cyfarwydd... ac i ddeall testunau sylfaenol".
Ond mae Cyngor Hil Cymru wedi codi amheuon am y cynllun, gan ddweud y gallai fod yn "rwystr" i rai grwpiau ethnig.
Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad hefyd wedi mynegu pryder y "gallai effeithio ar y gallu i recriwtio staff o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol".
'Camau breision'
Cafodd Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ei gymeradwyo yn ddiwrthwynebiad - felly heb bleidlais - yn y Siambr ddydd Mercher.
Mae gan y comisiwn, y corff sy'n gyfrifol am redeg y Cynulliad o ddydd i ddydd, 472 o weithwyr ar hyn o bryd.
Dywedodd Mr Price bod "angen cymryd camau breision" i "ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol".
Gallai hynny olygu "ailystyried y ffordd y byddwn yn pennu gofynion ieithyddol swyddi, a defnyddio dulliau recriwtio amgen", meddai.
Pryder Cyngor Hil Cymru yw y "gallai aelodau rhai cymunedau ethnig ystyried y cynnig hwn yn rhwystr".
Wrth bwysleisio bod y cyngor yn "cefnogi" defnyddio'r Gymraeg, dywedodd y prif weithredwr Uzo Iwobi ei bod hi'n "bwysig ymdrechu i gael gwared â rhwsytrau i wasanaethau, cyfleon newydd ac ymgysylltu".
Ychwanegodd: "Os yw'r gofyniad yma'n cael ei weithredu, buasem ni'n awgrymu na ddylai fod yn sgil gorfodol ond, yn hytrach, yn ddymunol er mwyn hyrwyddo ymarfer cynhwysol a chyfaniad rhwng hiliau."
Fe wnaeth Comisiwn y Cynulliad baratoi asesiad effaith ar gydraddoldeb, ond pan gafodd y ddogfen ei hanfon at aelodau'r pwyllgor diwylliant, gofynnwyd iddyn nhw beidio â'i chyhoeddi oherwydd bwriad "i'w chadw fel dogfen 'fyw' a fydd yn cael ei hadolygu'n rheolaidd".
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Bethan Jenkins AC, ei bod yn "siomedig fod y pwyllgor wedi cael cais i beidio â chyhoeddi'r asesiad hwn am resymau gweinyddol."
Ychwanegodd: "Gan hynny, ni all aelodau eraill y Cynulliad, na'r cyhoedd yn gyffredinol, farnu a yw'r mesurau lliniaru yn y cyswllt hwn yn ddigonol, ac mae'n bwysig ei fod e'n cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo modd."
Pwysleisiodd Mr Price nad oes disgwyl i unrhyw un sy'n gweithio yno nawr gwrdd â'r angen newydd yma ar gyfer ei swydd bresennol.
Ond "pe baen nhw'n penderfynu ceisio am swydd newydd—felly, dyrchafiad neu swydd wag—wedyn, wrth gwrs, byddai hynny yn rhwym yn golygu eu bod nhw'n gorfod cwrdd â'r lefel yna," meddai.
Yr unig aelod arall a gyfrannodd at y ddadl yn y Siambr oedd y Ceidwadwr Suzy Davies AC, a ddywedodd ei bod "yn galonogol bod y cynllun newydd yn canolbwyntio ar sgiliau recriwtio ac iaith.
"Rwy'n falch iawn bod cynnydd mewn caffael sgiliau'r iaith Gymraeg sy'n berthnasol i rôl benodol, a fydd yn cael ei ddathlu mewn adolygiadau rheoli perfformiad", meddai.
Dywedodd Darren Williams ar ran undeb y PCS bod "y cytundeb ffurfiol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn y Cyfarfod Llawn yn dechrau ar y cam nesaf o drafodaethau ynghylch manylion yr hyn y bydd hyn yn ei olygu yn ymarferol ar gyfer y rhai sy'n gorfod ei weithredu".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2017