Cyflwyno cais caniatâd cynllunio Neuadd Pantycelyn

  • Cyhoeddwyd
Cynlluniau PantycelynFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth/Penseiri Lawray
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r lolfa fawr a'r ffreutur yn cyfnewid lle yn y cynlluniau i wedd-newid Neuadd Pantycelyn, ac UMCA yn cael swyddfa mewn cyntedd newydd ar y llawr gwaelod

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno cais i Gyngor Sir Ceredigion am ganiatâd cynllunio i ailwampio neuadd breswyl hanesyddol Pantycelyn.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys 200 o ystafelloedd gwely en-suite, ynghyd â gofod cymdeithasu fydd ar gael i fyfyrwyr a'r gymuned leol hefyd.

"Dyma garreg filltir bwysig arall yn hanes Pantycelyn wrth i ni symud gam yn nes at ailagor yr adeilad fel llety myfyrwyr," meddai Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a chadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn.

Dywedodd Prifysgol Aberystwyth mai'r bwriad yw ail-agor Pantycelyn erbyn mis Medi 2019, cyhyd â'u bod nhw'n sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer y newidiadau i'r adeilad Gradd 2 rhestredig.

'Prosiect Uchelgeisiol'

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Wrth i'r cais am ganiatâd cynllunio fynd gerbron y cyngor sir, mae'r Brifysgol yn bwrw ymlaen gyda'r gwaith o sicrhau bod y cyllid angenrheidiol yn ei le ar gyfer y prosiect uchelgeisiol hwn."

Bydd y cynlluniau - sydd eisoes i'w gweld ar wefan y brifysgol - yn cael eu dangos ym Mhafiliwn Addysg Prifysgol Aberystwyth ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, ac ar stondin y brifysgol ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.

Yn 2015 fe wnaeth y neuadd gau fel llety preswyl, ond penderfynodd Pwyllgor Cyllid na fyddai'r newid yn un parhaol ac y byddai'r adeilad yn cael ei hailddatblygu.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth/Penseiri Lawray
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gan y 200 ystafell wely, fydd i'w cael dros y 3 llawr, ystafell ymolchi 'en-suite'

Daeth hynny wedi i nifer o fyfyrwyr Aberystwyth a chefnogwyr Neuadd Pantycelyn brotestio yn erbyn cau'r lle, a symud myfyrwyr i fflatiau newydd ar Fferm Penglais ryw hanner milltir i ffwrdd.

Ers hynny mae myfyrwyr cyfrwng Cymraeg y brifysgol wedi eu lleoli mewn neuaddau preswyl eraill ar gampws y brifysgol.

Dywedodd Gwion Llwyd, Llywydd UMCA: "Mae Pantycelyn wedi bod yn gartref i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth ers degawdau ac mae'r neuadd wedi bod yn rhan annatod o fywyd a diwylliant Cymraeg y dre ers dros 40 o flynyddoedd.

"Mae gweld y cynlluniau ar gyfer y dyfodol nawr yn hynod gyffrous ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at weld y neuadd yn ailagor fel llety ar gyfer myfyrwyr Cymraeg erbyn mis Medi 2019."