Abertawe ar restr fer Dinas Diwylliant y DU 2021

  • Cyhoeddwyd
AbertaweFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Abertawe yn cystadlu gyda phedair dinas arall am yr anrhydedd

Mae Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer o bump i gael ei dewis fel Dinas Diwylliant y DU yn 2021.

Bydd Coventry, Paisley, Stoke a Sunderland hefyd yn cystadlu am yr anrhydedd, gyda'r enillydd yn cael ei dewis ym mis Rhagfyr eleni.

Roedd y rhestr hir wreiddiol o 11 dinas yn cynnwys Tyddewi yn Sir Benfro.

Y ddinas diwylliant eleni yw Hull, ac mae'r llywodraeth yn dweud fod y statws wedi dod â hwb o £60m i'r ddinas hyd yn hyn yn 2017.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tyddewi yn un o 11 dinas wnaeth gyflwyno cais yn wreiddiol

Yn ogystal â'r digwyddiadau a buddsoddiad fydd yn dod i enillydd Dinas Diwylliant y DU yn 2021, bydd y ddinas hefyd yn elwa o £3m o grant treftadaeth gan y loteri.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns: "Rydw i'n gwybod y bydd [Abertawe] yn rhoi'r achos cryfaf posib ymlaen yn y ras am yr anrhydedd a dwi'n gobeithio y bydd pobl leol yn cymryd pob cyfle i gefnogi'r cais.

"Er y bydd rhywfaint o siom yn Nhyddewi heddiw, mae'n bwysig cofio bod y broses ymgeisio wedi gwneud cymaint i dynnu sylw cynulleidfa ehangach i nodweddion hardd yr ardal.

"Dwi'n gobeithio y bydd hyn yn darparu llwyfan er mwyn chwifio'r faner dros Gymru mewn gwobr Dinas Diwylliant y DU yn y dyfodol."