Cyfle i roi barn ar wariant cwmni Dŵr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Welsh water drains
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dŵr Cymru yn edrych ar ôl 22,369 milltir o bibau carthffosiaeth ac yn gwario £7m y flwyddyn i'w dadblocio

Mae Dŵr Cymru yn gofyn i'w tair miliwn o gwsmeriaid roi eu barn ar sut y dylai'r cwmni wario eu harian, ond eto cadw biliau yn fforddiadwy.

Mae'r cwmni, sydd ddim am wneud elw, am i bobl eu cynorthwyo ar sut i ddelio â heriau hir dymor hyd at 2050.

Mae hyn yn cynnwys materion fel delio â thywydd gwael, newid hinsawdd, newid yn y boblogaeth a thrawsnewid rhwydweithiau dŵr a charthffosiaeth o gyfnod Oes Fictorianaidd.

Y llynedd fe ddenodd arolwg cyntaf y cwmni 12,000 o atebion.

Bydd y cwmni yn lansio eu hymgyrch - Dweud eich Dweud, yr wythnos hon.

Bydd cwsmeriaid ar draws Cymru, Sir Henffordd a rhannau o Lannau Dyfrdwy yn cael eu gwahodd i ddweud sut y byddent yn blaenoriaethu materion a fydd yn wynebu Dŵr Cymru yn ystod y degawdau sydd i ddod.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni yn rheoli 16,777 milltir o bibau dŵr

Ymhlith y materion mae:

  • Gwella ansawdd dŵr,

  • Gweithio gyda byd natur i gael dŵr glanach,

  • Gwneud y cyflenwad dŵr yn fwy dibynadwy,

  • Gwella amodau i gwsmeriaid sy'n teimlo mai nhw sy'n dioddef waethaf,

  • Gostwng achosion o lifogydd a pheryg o lygredd,

  • Sicrhau traethau ac afonydd glanach,

  • Helpu pobl sy'n cael trafferth i dalu eu biliau,

  • Rhoi mwy yn ôl i gymunedau,

Bydd y canlyniadau yn cael eu bwydo i ymgynghoriad Dŵr Cymru 2050 a'r cynllun busnes a fydd yn cael ei gyflwyno i reolydd y diwydiant Ofwat. Bydd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar wella gwasanaethau a chadw biliau yn is rhwng 2020-25.