Buddugoliaeth arall i Lee Selby
- Cyhoeddwyd

Mae'r bocsiwr pwysau plu, Lee Selby wedi llwyddo i amddiffyn ei deitl byd yn erbyn Jonathan Victor Barros mewn gornest nos Sadwrn.
Cyflwynodd Selby y fuddugoliaeth fel teyrnged i'w fam, a fu farw bedwar diwrnod ynghynt.
Fe enillodd Selby, 30 oed, ar ôl penderfyniad unfrydol ar sail pwyntiau gan y beirniaid yn Arena Wembley nos Sadwrn - a dyma'r trydydd tro iddo amddiffyn ei deitl yn llwyddiannus.
Cafodd Selby anaf uwchlaw ei lygad dde yn gynnar yn yr ornest, ond fel arall nid oedd Barros yn llawer o drafferth iddo, ac fe gafodd yr Archentwr ei fwrw i'r llawr yn y 12fed rownd.