Caerdydd yn gartref 'delfrydol' i swyddi Channel 4
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth weinidogion yn San Steffan y byddai Caerdydd a'r cyffiniau yn gartref newydd "delfrydol" ar gyfer Channel 4.
Wrth ymateb i ymgynghoriad ar ddyfodol y darlledwr, dywedodd swyddogion y llywodraeth yng Nghaerdydd y gallai'r sianel wneud llawer mwy "i gyflawni dros bobl Cymru".
Mae nifer o ddinasoedd yn Lloegr, gan gynnwys Birmingham, Manceinion a Lerpwl, hefyd wedi gwneud achos dros adleoli'r sianel.
Wrth ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU, dywedodd Channel 4 bod risgiau sylweddol pe bai'n symud yn llwyr neu'n sylweddol y tu allan i Lundain.
Dim preifateiddio
Dywedodd y darlledwr mai gwario mwy o arian ar gomisiynu rhaglenni gan gwmnïau cynhyrchu yng Nghymru, a'r gwledydd a rhanbarthau eraill, fyddai'r "ffordd fwyaf effeithiol o gynyddu'r effaith economaidd" ar draws y DU.
Ond dyw eu hymateb nhw ddim yn "cynnwys cynlluniau penodol" ar sut i gynyddu eu cyfraniad y tu allan i Lundain.
Croesawodd Channel 4 benderfyniad y llywodraeth Geidwadol, ar ôl adolygiad 18 mis, i ddiystyru preifateiddio'r sianel.
Ond wrth gyhoeddi'r ymgynghoriad 12 wythnos ar sut i gynyddu effaith ranbarthol y sianel, dywedodd Ysgrifennydd Diwylliant y DU, Karen Bradley nad oedd hi'n "cydymdeimlo gyda'r rhai sy'n arswydo gyda'r syniad o leoli swyddi'r cyfryngau y tu allan i'r brifddinas".
Cynyrchiadau Channel 4 yng Nghymru yn 2016
Britain's Billionaire Immigrants - Avanti
Allianz Paralympic Shorts - Boom Cymru
IPC Athletics European Championships: Grosseto 2016 - Boom Cymru
IPC Swimming European Championships: Funchal 2016 - Boom Cymru
Posh Pawn: Series 3 - Boom Cymru
World's Most Expensive Toys - Boom Cymru
Anniversary Games 2016 - Boomerang
Posh Pawn: Series IV - Boomerang
Posh Pawnbrokers: Series 2 - Boomerang
The Snowdonia Marathon & Snowdon Race 2016 - Cwmni Da
Millionaire's Mansions: Designing Britain's Most Exclusive Homes - Indus Films
My Millionaire Dads and Me - Rondo
Coming Up 2015 - Touchpaper
Britain's Favourite Superhero - Yeti
Ffynhonell: Ymateb Channel 4 i'r ymgynghoriad
Yn eu hymateb, gafodd ei gyflwyno ar ôl dyddiad cau'r ymgynghoriad ar 5 Gorffennaf, mae Llywodraeth Cymru yn dweud y gallai'r risg o symud Channel 4 "fod yn sylweddol os nad yw'r lleoliad yn cael ei ddewis yn ddoeth".
Ychwanegodd y llywodraeth fod "Cymru - ac yn enwedig y canolbwynt cynhyrchu sydd eisoes yn ffynnu o gwmpas Caerdydd a de'r wlad - yn ymgeisydd delfrydol ar gyfer ail-leoli o'r fath".
Mae cais y llywodraeth yn amlinellu Sherlock, Born to Kill, Journey's End ac eraill fel cynyrchiadau teledu a ffilm sydd wedi eu 'gwneud yng Nghymru', ac yn ychwanegu bod de Cymru yn "prysur ddod yn ganolbwynt cynhyrchu sylweddol", gyda chyfleusterau ar hyd 'coridor creadigol' yr M4.
Er bod y llywodraeth yn cydnabod ei "pherthynas gadarnhaol a chynhyrchiol" presennol gyda Channel 4, maen nhw'n dweud fod yn rhaid i'r darlledwr newid os ydyn nhw am gael mwy o effaith yng Nghymru.
Yn benodol, mae'r ymateb yn dweud ei bod yn "anffodus, ar ôl ymweliad cadarnhaol Prif Weithredwr Channel 4 i Gymru ddwy flynedd yn ôl... nad oe dal ganddynt ganolfan barhaol na staff comisiynu yng Nghymru".
Mae'r llywodraeth hefyd yn galw am gwota Cymreig penodol ar gyfer oriau rhaglenni a gwariant Channel 4.
Fel mae'n sefyll, mae'n rhaid i'r darlledwr dreulio 3% o'i oriau comisiynu a chyllid yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gyda'r disgwyl y bydd hynny'n cynyddu i 9% erbyn 2020.
Adleoli 800 o staff?
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad yw'r targed ar gyfer 2020 yn un heriol, o ystyried y byddai "cyfran syml o'r ganran y boblogaeth yn cyfateb i 5%" o raglennu ac arian yn dod i Gymru.
Mae Cyngor Caerdydd hefyd wedi ysgrifennu at Adran Ddigidol, y Cyfryngau, Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth y DU yn galw ar Channel 4 i adleoli mwy na 800 o staff i brifddinas Cymru.
Ond mae'r corff sy'n cynrychioli'r tua 50 o gwmnïau cynhyrchu teledu yng Nghymru, Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC), wedi dweud yn eu hymateb fod angen "rhyw fath o bresenoldeb parhaol yng Nghymru" ar Channel 4, yn hytrach na symud yn gyfan gwbl allan o Lundain.
"Mae o leiaf angen comisiynydd i Gymru ar Channel 4," meddai TAC.
Mae yna "achos cyfyngedig iawn ar gyfer adleoli", yn ôl y dadansoddwr cyfryngau Toby Syfret.
"Fodd bynnag, yr hyn rydym wedi'i weld yn ystod y tair neu bedair blynedd diwethaf yw bod Channel 4 yn cael ei ddefnyddio fel pêl-droed gwleidyddol," meddai Mr Syfret, Cyfarwyddwr Ymchwil Teledu ar gyfer cwmni Enders Analysis.
Dywedodd llefarydd ar ran Channel 4: "Mae Channel 4 eisoes yn cynnig effaith sylweddol yng nghenhedloedd a rhanbarthau'r DU, ac rydym yn awyddus i barhau i weithio gyda'r llywodraeth fel rhan o'i ymgynghoriad i edrych ar ffyrdd ystyrlon i dyfu hyn ymhellach a chefnogi swyddi, buddsoddiant a thwf yn yr economi greadigol ar draws y DU gyfan."
Mae Llywodraeth y DU bellach yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'r "dystiolaeth i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen", gan gynnwys trafod gyda Channel 4 er mwyn sicrhau fod y sianel "yn gwneud y mwyaf er mwyn sicrhau gwerth arian cyhoeddus ar gyfer y wlad gyfan", meddai llefarydd.