Staff ysbyty yn wynebu talu miloedd mewn dirwyon parcio

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Athrofaol CymruFfynhonnell y llun, Mick Lobb/Geograph

Mae dros 70 o staff ysbyty yng Nghaerdydd "mewn braw" ar ôl i lys ddyfarnu fod arnyn nhw filoedd o bunnau mewn dyledion parcio, medd ymgyrchydd.

Ddydd Gwener penderfynodd barnwr yng Nghanolfan Cyfiawnder Sifil Caerdydd y byddai cwmni preifat Indigo yn cael casglu'r ffioedd gan staff Ysbyty Athrofaol Cymru.

Mae'r dyfarniad yn golygu fod yn rhaid i 75 o bobl dalu £128 am bob tocyn gawson nhw.

Dywedodd Sophie Round, gweithiwr iechyd cynorthwyol, mai "nid dyma'r canlyniad roedden ni eisiau a dyw ein cyflogau ni ddim wir yn ddigon i dalu'r dirwyon".

'Effeithio pawb'

Ychwanegodd Sue Prior, sydd wedi bod yn ymgyrchu ar ran y staff: "Mae'n arswydus. Mae rhai [o'r staff] wedi'u dryllio.

"Maen nhw mewn braw... yn teimlo'n sâl. Mae hyn yn effeithio pawb, o lanhawyr i ddoctoriaid."

Dywedodd fod gan staff drwyddedau oedd yn eu caniatáu i barcio mewn mannau penodedig am £1.05 y diwrnod.

Ond oherwydd diffyg lle, meddai, roedd rhai staff wedi gorfod parcio mewn mannau eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sophie Round (canol) ei bod hi'n siomedig â'r dyfarniad

Dywedodd Ms Prior ei bod hi wedi bod yn ymgyrchu ar ran y staff am fod dau o'i phlant hi wedi eu geni yn ddall yn yr ysbyty, ond yn dilyn ymyrraeth feddygol maen nhw bellach yn gallu gweld rhywfaint.

"Roedd rhaid i mi helpu. Heb y bobl yma a'r GIG byddai fy mhlant yn ddall," meddai.

Ychwanegodd Felicity Richards, sydd yn nyrs: "Mae'n rhaid i mi adael 45 munud i awr yn ychwanegol er mwyn parcio fy ngar bob bore a chael lle i barcio.

"Erbyn i mi gyrraedd y gwaith does dim lle fel arfer ac mae'n rhaid i mi barcio oddi ar y safle, yn aml ryw 20 i 25 munud i ffwrdd."

'Dewis peidio'

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro bod dros 98% o staff wedi cydymffurfio â rheolau parcio a'u bod yn "siomedig" fod rhai wedi "dewis peidio â chydweithio".

Yn 2015 fe wnaethon nhw annog staff i dalu unrhyw ddirwyon parcio, gan ddweud eu bod wedi eu rhoi yn gyfreithlon ac nad oedden nhw'n bwriadu eu herio.

Mae gan Indigo gytundeb i reoli meysydd parcio'r ysbyty ers rhai blynyddoedd, ac mae ganddyn nhw 1,250 o lefydd parcio yno.

Mae Indigo Park Services UK wedi cael cais am sylw.