Lle oeddwn i: Sobri
- Cyhoeddwyd
Yr wythnos hon bydd Wynford Ellis Owen yn ymddeol fel Prif Weithredwr Ystafell Fyw Caerdydd.
Cafodd y ganolfan ei sefydlu i helpu pobl sydd yn gaeth, boed hynny i alcohol, cyffuriau, rhyw neu gamblo. Mae hi hefyd yn rhoi cymorth i bobl sydd ag anhwylderau bwyta.
Roedd Wynford yn ddewis addas ar gyfer arwain y gwaith gan fod ganddo brofiad personol o gaethiwed. Er ei fod yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd y sgrin fach, ac yn arwr i genedlaethau o blant Cymru fel y cymeriad chwedlonol hwnnw Syr Wynff ap Concord y Bos, o dan y doniolwch roedd gan Wynford gyfrinach fawr. Roedd yn alcoholig.
Yma mae'n esbonio wrth Cymru Fyw sut y cafodd y 'foment Ddamascaidd' chwarter canrif yn ôl, pan benderfynodd bod yn rhaid iddo roi'r gorau i yfed er ei les ei hun a'i deulu:
Daeth y newid mawr i fi ar 20 Gorffennaf 1992, yn Aberystwyth 'chydig cyn i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yno. Ro'n i tu allan i siop gwerthu alcohol ar y stryd fawr yno, mewn cyfnod lle o'n i wedi dianc o fy nghyfrifoldeb i fel gŵr i Meira, a thad i Bethan a Ruth.
Ro'n i wedi mynd i'r gogledd i weithio gyda Chyfarwyddwr Theatr Gwynedd ar y pryd, Graham Laker, ar ddrama a oedd yn cael ei llwyfannu yn y Steddfod. Ond erbyn hynny ro'n i'n yfed bob awr o'r dydd.
Rhyw flwyddyn neu ddwy wedyn bu farw Graham, ond fo oedd y person 'nath ddweud wrtha i y geiriau iawn, yn yr union drefn iawn, ar yr union adeg iawn, nath arwain ata i i groesi'r bont at fywyd newydd. Fe 'naeth o ofyn 'Be' wyt ti'n mynd i wneud am dy yfad, Wynford?'
Eliffant yn yr ystafell
Ro'n i wedi bod yn yfed ers tua 26 mlynedd, a sawl mil oedd wedi dweud hynny wrtha i? Ond dim ond dau berson naeth erioed fy herio i am fy yfed. Gyda dibyniaeth, does 'na neb byth yn siarad am y peth, er bod pawb yn gw'bod bod o yna, fel rhyw eliffant pinc ynghanol y 'stafell, ond mae pawb yn cerdded ar blisgyn o'i gwmpas o yn smalio bod o ddim yn bod. Felly erbyn y pwynt hynny yn fy mywyd ro'n i yn barod i wneud rhywbeth amdano - dioddefaint o bosib yw'r grym mwyaf creadigol sy'n bodoli ym myd natur.
Es i Aberystwyth i'r ganolfan driniaeth 'ma, ac ro'n i wedi yfed yr holl ffordd lawr ac erbyn i mi gyrraedd y ganolfan wnaethon nhw wrthod fy nghymryd i gan mod i wedi meddwi gymaint. Roedd hi'n benwythnos coll yn Aberystwyth, ac yna nes i ffeindio'n hun ar y stryd fawr gyda photel wag o fodca neithiwr ar y llawr a photel arall yn fy llaw - dyna oedd fy moment 'Ddamascaidd'.
Ar y foment yna roedd llais yn dweud 'mae popeth drosodd, mae popeth am fod yn wahanol o hyn ymlaen'. Mae'r llais yna gen i hyd heddiw, yn cadarnhau, ac y mwyaf dwi'n gwrando ar y llais yna y gorau mae'n mywyd i'n mynd. O fan yna dechreuodd fy nhaith tuag at adferiad, a'r nos Sul honno oedd y tro d'wethaf i mi yfed.
Oherwydd bod sermonïau graddio'r Brifysgol yn cael eu cynnal, doedd 'na ddim llety i'w gael yn y dre, ond ges i gynnig lle mewn atig. Roedd gen i dri doctor yn fy nghyflenwi i efo bob math o bethau - cyffuriau, tawelyddion a thabledi cysgu, ac ro'n i'n cymryd rhain fel Smarties. Pan ddeffrais i y bore wedyn ar y dydd Llun, d'o'n i methu agor fy llygaid, methu symud fy nhafod ac o'n i'n meddwl mod i wedi cael strôc.
Tosturi
Fe wnaeth y ferch ifanc a roddodd le i mi yn ei atig roi dŵr ar fy ngwefusau, ac fe na'th hi fy symud i ganol y 'stafell. Ro'n i'n crynu ac roedd hithau'n crynu hefyd, a dyna pryd nes i ofyn am help. Y weddi fwyaf effeithiol dwi erioed wedi ei gweddïo erioed - un gair, 'Help'!
Roedd yna rhywbeth yn wahanol yn llygaid y ferch yma, achos ro'n i wedi cael sawl un yn gweiddi arna i a dweud y drefn wrtha' i. Roedd yna dosturi yn ei llygaid hi, ac roedd hi wedi sylweddoli fod y dewis oedd gen i wedi diflannu ac mai alcohol oedd yn penderfynu, ac yn rheoli.
Mi wyddwn i o'r foment yna mai'r ateb i ddibyniaeth ydi tosturi, a beth mae'r rhai sy'n gaeth i'r ddiod yn chwilio amdano mewn gwirionedd yw cariad.
Ro'n i yn y capel dydd Sul diwethaf, ac yn rhyfedd iawn, mi deimlais gyffyrddiad ar fy ysgwydd. Y Dr Huw Edwards, y seiciatrydd ddaeth ar y bore dydd Llun hwnnw i fy ngweld yn yr atig yn Aberystwyth oedd yno.
Roedd Dr Edwards yn digwydd bod yn y tŷ drws nesaf i'r lle ro'n i'n aros yn Aberystwyth ar y pryd, a fo wnaeth fy anfon i i'r Ysbyty Meddwl yn Aberystwyth. Oddi yno mi es i gael triniaeth arbenigol.
Bron i 25 mlynedd i'r diwrnod ers i Dr Edwards fy nhrin yn Aberystwyth ar ddechrau fy nhaith, mae'n eistedd wrth fy ymyl yn y capel, ac yntau wedi ymddeol a symud i Gaerdydd.
Mae'r daith yn parhau hyd heddiw.
Mae noson arbennig yn cael ei chynnal yn Y Deml Heddwch, Caerdydd ar nos Fawrth, 18 Gorffennaf i nodi ymddeoliad Wynford Ellis Owen.
Bydd Wynford yn cael ei holi gan Emma Walford wrth iddo edrych nôl ar 25 mlynedd o fod yn sobr.