Gwobrwyo 180 o safleoedd Cymru â'r faner werdd

  • Cyhoeddwyd
Mynwent AberfanFfynhonnell y llun, Alan Richards/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Baner werdd i fynwent Aberfan lle cynhaliwyd gwasanaeth arbennig ym mis Hydref i nodi 50 mlynedd ers trychineb 1966

Mae mwy na 180 parc a mannau gwyrdd yng Nghymru wedi ennill Gwobr y Faner Werdd, sef y marc rhyngwladol a roddir i barc neu fan gwyrdd o ansawdd.

Eleni, mae Cadw Cymru'n Daclus wedi rhoi'r statws i 22 safle yn ychwanegol - y nifer y llynedd oedd 161.

Ymhlith y rhai sy'n derbyn y statws am y tro cyntaf, mae Mynwent Aberfan, Prifysgol Abertawe a'r Kymin ym Mhenarth.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Lesley Griffiths: "Mae'n bleser gweld cymaint o fannau gwyrdd yn cyflawni safonau Gwobr y Faner Werdd. Mae'r Wobr yn helpu i sicrhau bod gan gymunedau fannau gwyrdd o ansawdd uchel i fwynhau a phrofi'r awyr agored, sy'n hanfodol i lesiant ac ansawdd bywyd ein cymunedau yng Nghymru.

"Rwyf yn llongyfarch yr holl barciau a'r mannau cymunedol sydd yn darparu cyfleusterau a digwyddiadau rhagorol drwy'r flwyddyn i bawb yng Nghymru."

Mae enillwyr Gwobr Gymunedol y Faner Werdd yn cynnwys Yr Ardd Liwiau yn Amgueddfa Wlân Genedlaethol Caerfyrddin, Cae Bryn Coed yn Llanffestiniog, a Gwlypdir Llanfyllin. Mae'r safleoedd hyn yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gynnal eu cyfleusterau rhagorol.

The Kymin, in PenarthFfynhonnell y llun, Jaggery/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Kymin ym Mhenarth yn un o'r 22 safle newydd i dderbyn y faner werdd

Mae cynllun Gwobr y Faner Werdd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

I gael y wobr rhaid cydymffurfio ag wyth maen prawf llym sydd yn cynnwys safonau garddwriaethol, glanweithdra, rheolaeth amgylcheddol a chyfranogiad cymunedol.

Wetland Nature Reserve, Cardiff Bay,Ffynhonnell y llun, Philip Halling/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Gwarchodfa Gwlyptiroedd Bae Caerdydd yn derbyn y faner werdd am y tro cyntaf

Mae yna lwyddiant ysgubol i Gaerdydd yn y maes wrth iddynt dderbyn 24 o wobrau rhagorol (12 Gwobr y Faner Werdd a 12 Gwobr Gymunedol y Faner Werdd) gan gynnwys Gwarchodfa Gwlypdiroedd Bae Caerdydd.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru'n Daclus: "Mae Gwobr y Faner Werdd yn ymwneud â rhoi pobl mewn cysylltiad â'r parciau a'r mannau gwyrdd gorau.

"Mae'n bleser gan Gadwch Gymru'n Daclus gynnal y cynllun yng Nghymru am ein bod yn gwybod y gall cael amgylchedd o ansawdd da gael effaith fawr ar ein cymunedau, ein hiechyd a'n lles a'r economi.

"Hoffwn longyfarch ein henillwyr a diolch i bawb sydd wedi gweithio'n ddiflino i gynnal y safonau y mae Gwobr y Faner Werdd yn galw amdanynt. Rwyf yn annog pawb i fynd allan i'r awyr agored ac archwilio'r ystod amrywiol o gyfleusterau rhagorol sydd ar drothwy ein drws."