Banc Datblygu £80m i fod yn 'hwb i fusnesau Cymru'
- Cyhoeddwyd
Bydd Banc Datblygu i Gymru yn cael ei lansio yn swyddogol ddydd Mawrth.
Y bwriad yw defnyddio arian Llywodraeth Cymru i helpu busnesau i sefydlu a thyfu.
Fe ddaw hyn wedi beirniadaeth o Gyllid Cymru gan Lywodraeth Cymru am beidio cwrdd â gofynion ac anghenion busnesau bach.
Dydd Mawrth cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, y bydd £35m o arian o'r Undeb Ewropeaidd yn cael ei ychwanegu at y £136m yng Nghronfa Fusnes Cymru gafodd ei sefydlu'r llynedd i gefnogi busnesau bach a chanolig ar draws Cymru.
Bydd gan Fanc Datblygu Cymru darged o fuddsoddi ar gyfartaledd £200,000 y flwyddyn am bum mlynedd mewn cwmnïau bach a chanolig.
Pencadlys yn Wrecsam
Y nod yw helpu creu 5,500 o swyddi newydd y flwyddyn.
Y gobaith yw y bydd y banc yn cydweithio yn agosach gyda Busnes Cymru, gwasanaeth cefnogi busnesau Llywodraeth Cymru, fel ei bod hi'n haws i gwmnïau gael help.
Does dim bwriad defnyddio arian Llywodraeth Cymru ar gyfer rhedeg y banc, fydd â'i bencadlys yn Wrecsam.
Dywedodd Mr Skates: "Y Banc Datblygu fydd y cyntaf o'i fath yn y DU, gan fynd i'r afael â methiant presennol y farchnad o fewn cyllid busnes a darparu cefnogaeth wedi'i ganolbwyntio ar fusnesau bach dyfeisgar ar draws Cymru a'u cynorthwyo i fod yn fwy, iachach a chryfach.
"Bydd yn cynyddu argaeledd cyllid i fusnesau bach a chanolig i £80m y flwyddyn o fewn pum mlynedd, ac ry'n ni'n rhagweld, o ystyried y gallai hyn ei gael ar fuddsoddiad o'r sector preifat, y gallai hynny weddnewid economi Cymru gan greu dros £170m y flwyddyn erbyn 2021/22."
Bydd Banc Datblygu Cymru yn dechrau ar ei waith ym mis Hydref eleni.