Person yn sownd ar ôl i eglwys gwympo yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae un dyn yn sownd ôl i adeilad gwympo ger rheilffordd yng Nghaerdydd.
Dywedodd y Gwasanaeth Tân ac Achub bod dau berson wedi llwyddo i ddianc o'r hen eglwys, a bod swyddogion "yn y broses o chwilio am ac achub y trydydd".
Mae'r gwasanaethau brys wedi cadarnhau bod un person wedi ei anafu.
Cafodd cerbydau arbenigol eu hanfon i'r safle am tua 14:50.
Dywedodd cwmni Young Contractors bod eu gweithwyr wedi bod ar y safle ers rhai wythnosau, ond nad oedd staff y cwmni yno ddydd Mawrth.
Cafodd trenau rhwng Caerdydd a Chasnewydd eu hatal ar ôl y digwyddiad, ond mae rhan o'r rheilffordd bellach wedi ail-agor.
Dywedodd Trenau Arriva Cymru bod y digwyddiad yn achosi oedi o hyd at awr.
Dywedodd Eric Bellew o Wasanaeth Tan ac Achub De Cymru bod swyddogion yn cydweithio â Network Rail er mwyn i wasanaethau llawn ddychwelyd cyn gynted â phosib.
Ychwanegodd bod Heol Pearl a strydoedd agos wedi eu cau, gan ofyn i yrwyr osgoi'r ardal os yn bosib.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2017