Brwdfrydedd Môn yn chwalu targed ariannol y Steddfod
- Cyhoeddwyd

Mae Derec Llwyd Morgan yn dweud ei fod yn falch gyda nifer y bobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o'r trefnu
Mae cadeirydd pwyllgor gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi dweud fod paratoadau'r ŵyl eleni wedi "adfywio" rhai o gymunedau Môn.
Dywedodd Derec Llwyd Morgan fod brwdfrydedd trigolion lleol i'w weld yn y ffaith eu bod wedi chwalu eu targed casglu arian ar gyfer y digwyddiad.
Mae'r pwyllgorau trefnu lleol bellach wedi casglu £410,000 ar gyfer yr Ŵyl eleni, ymhell dros y targed gwreiddiol o £325,000.
Os ydyn nhw'n llwyddo i gyrraedd dros £412,000 fe fyddan nhw'n torri'r record gafodd ei osod gan Eisteddfod Llanelli yn 2014.
'Gwlad y Medra'
"Rydan ni wedi gwneud yn dda iawn a dweud y gwir," meddai Mr Morgan wrth drafod yr ymdrechion cyn i'r Ŵyl ddechrau'r wythnos nesaf.
"Mae 'na 32 o bwyllgorau apêl ar hyd yr ynys, ac mae'r rhan fwyaf o ddigon ohonyn nhw wedi mynd yn uwch na'u targed, sy'n dweud llawer am y bobl oedd ar y pwyllgorau yma, a hefyd y math o weithgareddau dychmygus roedden nhw wedi eu trefnu.
"Mae 'na lawer iawn o bobl sy'n mynd i wneud rhywbeth am y tro cyntaf, os taw dim ond stiwardio, sy'n beth pwysig iawn, neu wneud pice ar y maen a phaneidiau ar gyfer y beirniaid - mae 'na fyddin o wirfoddolwyr fydd wrth eu bodd yn gwneud pethau ar gyfer yr Eisteddfod.
"Ro'n i bron a gofyn i'r pwyllgor gwaith alw'r steddfod yn Eisteddfod Gwlad y Medra, ond ro'n i'n meddwl na fuasai hynny'n deg ar weddill Cymru!"
Mae Osian Roberts, Nia Roberts a George North ymysg y rheiny fydd yn cael eu hurddo i'r Orsedd eleni

Bydd Osian Roberts, Nia Roberts a George North yn cael eu hurddo i'r Orsedd eleni
Hon fydd y pumed gwaith i'r brifwyl ymweld ag Ynys Môn erioed, ar ôl ymweld â Llanbedrgoch yn 1999 a chyn hynny Llangefni yn 1983.
Ond mae cadeirydd y pwyllgor gwaith yn hyderus na fydd yn rhaid i'r ynys aros cyn hired ar gyfer Eisteddfod arall, a bod manteision ychwanegol o ddod â'r Ŵyl i ardal ble mae mwyafrif yn medru'r Gymraeg.
"Mae cynifer o bobl ifanc a chymharol ifanc wedi ymgymryd â swyddi fel cadeirydd, is-gadeirydd neu ysgrifennydd pwyllgor... bydd 'na ddigon o ddawn a hyder a gwybodaeth i gynnal yr Eisteddfod mewn ychydig eto," meddai.
"Beth mae'r Cymreictod cynhenid yna'n ei roi i chi ydy gwybodaeth am ddiwylliant yr iaith. Mae'r bobl yma'n gwybod beth yw 'steddfod, ac mi allwch chi weld eu stamp nhw ar raglen y dydd."
'Dyletswydd' yr ŵyl
Mae Mr Morgan hefyd yn hyderus y bydd Ynys Môn yn ehangach ar ei hennill, a bod y Brifwyl yn "cyfrannu arian mawr i economi'r ardal lle mae hi".
"Dwi'n gobeithio y bydd pobl yn mynd i Gaergybi, yn mynd i Langefni i weld y pethau sydd yno, i gael blas ar y trefi, mynd i fwytai neu dafarndai, ond mae'r digwyddiadau diwylliannol ers blynyddoedd bellach yn digwydd ar y maes," meddai.
"Dyletswydd gyntaf y 'Steddfod ydy cael pobl i'r 'Steddfod. Dyletswydd yr Eisteddfod ydy cynnal gŵyl yn yr iaith Gymraeg, a gorau i gyd po fwyaf o bobl ddaw i fwynhau'r ŵyl honno."

Fydd ymwelwyr i'r Eisteddfod yn cymryd y cyfle i gael blas ar rai o atyniadau eraill Môn, fel Ynys Llanddwyn?
Caiff hynny, meddai, ei adlewyrchu yn y gwerthiant tocynnau hyd yn hyn, gyda'r cyngherddau nos bron i gyd wedi gwerthu allan a'r maes carafanau hefyd wedi llenwi ers misoedd.
"Mae hynny'n dangos bod pobl eisiau dod i'r wlad Gymraeg, maen nhw'n awyddus iawn i fod yng nghanol bwrlwm pethau," meddai.
Ai'r gobaith felly yw y bydd gŵyl eleni yn dod yn un o'r rheiny fydd yn cael ei chofio a'i thrysori gan eisteddfodwyr am flynyddoedd maith i ddod?
"Dwi'n gwybod ein bod wedi gwneud ein gorau, a dwi bron yn siŵr y cawn ni 'steddfod dda. Mae disgwyliadau'n uchel, ond dydy hynny ddim yn ddrwg o beth wrth gwrs."