'Angen pwerau ychwanegol' i ddelio hefo cŵn sy'n ymosod

  • Cyhoeddwyd
ciFfynhonnell y llun, Almy

Mae angen pwerau ychwanegol ar yr heddlu i ddelio hefo cŵn sy'n ymosod ar ddefaid, yn ôl uned arbenigol Heddlu Gogledd Cymru.

Mae'r Tîm Troseddau Gwledig yn gobeithio y bydd cyfraith newydd yn cael ei chyflwyno i amddiffyn da byw y flwyddyn nesaf.

Mae'r undebau amaethyddol hefyd yn cefnogi'r alwad am fwy o bwerau.

Yn y gogledd dros y dair i bedair blynedd ddiwethaf, mae 'na dros 2,000 o ddefaid wedi cael eu lladd gan gŵn.

Disgrifiad,

Mae'r ffermwr Twm Hughes wedi dioddef colledion ar ei fferm ger Porthmadog

Un sydd wedi cael ei effeithio yn uniongyrchol gan gŵn sy'n lladd defaid ydy Twm Hughes, sy'n ffermio ym Morth yr Hir Faen, ger Porthmadog.

Hefo traeth poblogaidd y Greigddu a llwybr yr arfordir gerllaw, mae o wedi cael sawl achos o gŵn yn ymosod ar ei ddefaid.

"Ers dros flwyddyn a hanner, 'dan ni wedi colli pum dafad a 'sa chi'n gweld y ddwy ddwetha', 'sa chi ddim eisiau gweld ci byth o'ch cwmpas yn unlle 'de.

"Roedd y cŵn wedi cnoi eu gên isa' nhw i gyd y ddwy union yr un fath... Roeddwn i wedi dychryn am fy mywyd.

"Erioed wedi gweld dim byd fel 'na a bu'n rhaid mynd â'r defaid i'w rhoi lawr. Mae'r peth yn dorcalonnus achos 'rheina ydy'n defaid nesa' ni sy'n dod i mewn."

'Dim digon o bwerau'

Ac yn ôl Iestyn Pritchard, llefarydd ar ran NFU Cymru, pan mae cŵn yn ymosod ar ddefaid mae'n cael effaith mawr ar y ffermwr mewn mwy nag un ffordd.

"Mae 'na effeithiau pellgyrhaeddol yn nhermau colli stoc, ac mae 'na stoc sydd ddim yn cael eu lladd ond efo anafiadau difrifol a mae'n rhaid galw'r fet i mewn", meddai.

"Mae ffermwyr yn ypsetio pan ma' nhw'n gweld anifeiliaid efo anafiadau difrifol. Dydy o ddim jyst yn ymwneud efo'r golled ariannol, mae rhywun yn gorfod delio 'efo beth sydd wedi digwydd hefyd yn 'de."

Dros y dair i bedair blynedd diwethaf, mae Tîm Atal Troseddau Gwledig Heddlu'r Gogledd wedi bod yn cadw cofnodion manwl o ddigwyddiadau lle mae cŵn yn ymosod ar ddefaid.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys Evans am weld y gyfraith yn cael ei newid

Mae'r ffigyrau'n dangos fod dros 2,000 o ddefaid wedi eu lladd mewn 500 o ddigwyddiadau gwahanol.

Mae'r tîm am weld deddf gwarchod da byw newydd yn dod i rym y flwyddyn nesaf yn lle'r ddeddf gafodd ei phasio yn 1953.

Dywedodd Rhys Evans, aelod o uned arbennig Heddlu'r Gogledd, eu bod nhw angen mwy o bwerau.

"Does 'na ddim digon o bwerau yn y gyfraith bresennol... Does 'na ddim digon o bwerau ganddon ni fel heddlu i fynd i 'nôl cŵn o'r cartref os ydyn nhw wedi bod yn lladd defaid.

"Mae angen mwy o bwerau yn y llysoedd i gael dedfryd llymach i berchnogion cŵn sy'n lladd defaid, ac mae angen mwy o ffein gan y llys i ddangos i bobol gymaint mae trosedd o'r fath yn effeithio ar bobl yng nghefn gwlad'.