Cynllun i greu 7,000 o swyddi i'r Cymoedd
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i greu 7,000 o swyddi ac adfywio cymoedd y de wedi ei gyhoeddi.
Dan y cynllun, bydd chwe thref yn ganolfannau ar gyfer twf economaidd yn y cymunedau sydd rhwng Castell-nedd a Chwmbrân.
Mae'r gweinidog sydd yng ngofal y cynllun, Alun Davies, wedi bod yn arwain tasglu ac mae eisoes wedi galw am "ddadeni diwydiannol" ar gyfer y cymoedd, ac i hynny fod yn fwy na "ffyrdd newydd sy'n sgleinio".
Dywedodd hefyd y byddai'n gweithio i symud swyddi o'r sector cyhoeddus i'r cymoedd pan yn "addas".
Mae'r tasglu wedi trefnu cyfres o ymgynghoriadau dros y flwyddyn i ddod.
Y ddogfen drafod fydd Ein Cymoedd, Ein Dyfodol, gyda'r blaenoriaethau'n cynnwys swyddi a sgiliau gwell, gwasanaethau cyhoeddus gwell a chymunedau cryfach.
Mae'r tasglu'n ceisio:
Cau'r bwlch cyflogaeth rhwng y cymoedd a gweddill Cymru drwy gael 7,000 yn fwy o bobl i mewn i waith erbyn 2021 a chreu "miloedd o swyddi newydd gwell, mwy diogel a chynaliadwy";
Gweithio i wella gwasanaethau cyhoeddus;
Gwella iechyd, lles a thwristiaeth drwy ystyried datblygu parc tirwedd i'r cymoedd fydd yn gwneud y gorau o'r amgylchedd naturiol.
Dywedodd Mr Davies: "O'r dechrau, dwi wedi bod yn glir na fydd hwn yn achos arall o lywodraeth yn penderfynu beth sy'n iawn i'r cymoedd.
"Os ydyn ni am lwyddo, rhaid i gymunedau lleol a phobl leol fod wrth galon ein gwaith."
Y canolfannau dan sylw fyddai:
Pontypridd a Threfforest - tai, swyddfeydd, diwydiant a siopau;
Caerffili ac Ystrad Mynach, Cwmbrân a Merthyr Tudful - tai, swyddfeydd a diwydiant;
Castell-nedd - tai, diwydiant, digidol ac ynni;
Glyn Ebwy - Parc busnes i'r diwydiant moduro.
Dywedodd yr Athro Kevin Morgan, awdur A New Agenda For The Valleys yn 1988, fod angen buddsoddi mewn trafnidiaeth o safon uchel a gwella tai er mwyn creu cysylltiad gwell rhwng trefi'r cymoedd.
Ychwanegodd mai dyna'r ffordd o annog pobl ifanc broffesiynol i fyw mewn llefydd fel Pontypridd.
"Pontypridd yw'r porth i'r cymoedd ac fe ddylai gyflawni rôl o fod yn ganolfan gyflogaeth i'r cymoedd uwch a chanol", meddai.
"Byddai cwmnïau fel Admiral, dwi'n siŵr, yn gallu creu atynfa drwy leoli rhai o'u swyddfeydd ym Mhontypridd.
"Fe fyddai hynny'n cynorthwyo rhyng-ddibyniaeth ein dinasoedd a'n cymoedd... wedyn fe fydd pawb ar eu hennill."
'Cynllun PR sgleiniog'
Wedi'r cyhoeddiad, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar yr economi bod y cynllun yn fawr ddim mwy na "chynllun PR sgleiniog".
Dywedodd Russell George bod "diffyg arweiniad strategol" gan Lywodraeth Cymru wedi effeithio'r ardal, a bod unrhyw fuddsoddiad gan yr Undeb Ewropeaidd "wedi ei wastraffu ar y cyfan".
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi dweud ei bod yn "hanfodol" bod cymunedau'r cymoedd yn "cael y parch y maen nhw'n haeddu, a bod cyfleoedd go iawn yn cael eu creu i bobl".
Dywedodd Leanne Wood na allai'r cynllun yma gael ei "ychwanegu at y rhestr o addewidion gafodd eu torri a chynlluniau wnaeth fethu".