Cefnogi gorsaf drenau £30m yn nwyrain Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Artist's impressionFfynhonnell y llun, Cardiff Parkway Developments Ltd

Mae gorsaf drenau newydd a maes parcio gwerth £30m yn nwyrain Caerdydd wedi derbyn sêl bendith gan Lywodraeth y DU.

Bydd yr orsaf newydd yn Llaneirwg yn gwasanaethu parc busnes yn ogystal â 32,000 o breswylwyr.

Bydd proses gynllunio swyddogol gan Gyngor Caerdydd yn dechrau ddydd Gwener.

Mae datblygwyr yn credu bydd y datblygiad yn lleihau taith person i ganol y ddinas o awr i tua chwe munud.

Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU, Chris Grayling AS, bydd yn "gweithio gyda hyrwyddwyr y cynllun wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau i'r cam nesaf".

Bydd gorsaf Llaneirwg yn cynnig:

  • Cysylltiadau cyflym i orsaf Caerdydd Canolog, gyda threnau yn cyrraedd mewn chwech i saith munud,

  • Potensial ar gyfer cysylltiad i Faes Awyr Caerdydd,

  • Llefydd parcio i 4,000 o geir fydd yn costio £5 y dydd,

  • Potensial i bobl ddefnyddio'r trenau i leihau'r prysurdeb yng nghanol y ddinas yn ystod digwyddiadau mawr,

  • Bydd trenau o Birmingham ac o harbwr Portsmouth yn gallu stopio yn yr orsaf, posib bydd trên pob hanner awr o Lyn Ebwy,

  • Gobaith bydd trenau cyflym i Lundain yn stopio yno yn y dyfodol,

  • Cynlluniau i'w hychwanegu at fap Metro de Cymru, gyda thrên yn stopio ar Heol Casnewydd ar ei ffordd i ganol y ddinas,

  • Bydd yr orsaf yn cynnwys lle i adael beiciau, safle bysiau a safle tacsi.

Ffynhonnell y llun, Cardiff Parkway Developments Ltd

Mae'r datblygiad wedi dod yn sgil gwrthod y syniad o drydaneiddio'r brif lein rhwng Caerdydd ac Abertawe.

Mae disgwyl i'r orsaf gostio £17m, a'r maes parcio yn costio £12m, mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau yn 2020.

Dywedodd cyfarwyddwr Cardiff Parkway Developments, Andrew Roberts: "Rydym yn gobeithio dechrau ar y gwaith mewn blwyddyn.

"Mae 'na lawer o waith cynllunio a chaniatáu, ond mae popeth yn edrych yn bositif."