Un o'r archfarchnadoedd mwyaf i werthu cig oen o Gymru

  • Cyhoeddwyd
asda cig oen
Disgrifiad o’r llun,

Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC (dde) yn Asda Wrecsam yn trafod cefnogaeth Asda i Gig Oen Cymru, gyda Rhys Llywelyn o Hybu Cig Cymru, Rheolwr Siop Wrecsam, Shaun Leach a Kelly Bainbridge a Mike Jones, o Asda

Fe fydd un o archfarchnadoedd mwyaf Prydain, Asda, yn gwerthu Cig Oen Cymru ar gownteri cig 72 o'u siopau mwyaf.

Mae Hybu Cig Cymru (HCC), ar y cyd a chwmni Asda, wedi cyhoeddi y bydd cig ar werth yng nghownteri'r archfarchnad ar draws Gymru a Lloegr o nawr tan yr hydref.

Dywed HCC fod y cyhoeddiad yn hwb sylweddol i ddiwydiant cig oen sy'n cyfrannu £267m yn flynyddol i economi Cymru.

Mae HCC yn gweithio gydag Asda a manwerthwyr eraill ym Mhrydain i hyrwyddo Cig Oen Cymru a Chig Eidion o Gymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

"Rwy'n falch iawn fod Asda yn mynd i werthu Cig Oen Cymru premiwm yn 72 o'i siopa mwyaf trwy Loegr a Chymru. Mae Cig Oen Cymru PGI yn gynnyrch eiconig o safon uchel ac rwy'n siŵr y bydd yn boblogaidd gyda chwsmeriaid.

"Bydd y newyddion yma yn hwb sylweddol i ddiwydiant cig coch Cymru."

'Darpariaeth premiwm'

Dywedodd Rhys Llywelyn, Rheolwr Marchnata HCC: "Ry'n ni'n croesawu'r ymrwymiad newydd yma gan un o fanwerthwyr mwyaf Prydain i ddarparu Cig Oen Cymru fel rhan o'i ddarpariaeth premiwm.

"Mae'r ffaith y bydd yn cael ei hyrwyddo yn y siopau yn atgyfnerthu enw da Cig Oen Cymru fel cynnyrch o safon uchel y mae'r cwsmer modern yn ei chwennych."

Yn ogystal ag Asda, mae Cig Oen Cymru wedi ei frandio ar gael yn siopau Waitrose, M&S, Sainsbury, Morrisons, Tesco, Co-op ac Aldi, yn ogystal â nifer o siopau annibynnol.