Undeb yn galw am gynllun i helpu ffermwyr ifanc Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r diwydiant amaeth yn wynebu trafferth yn y dyfodol os nad oes mwy yn cael ei wneud nawr i annog y genhedlaeth ifanc, yn ôl undeb ffermio.
Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun gweithredu ar gyfer ffermwyr ifanc a newydd ddyfodiaid mae Undeb Amaethwyr Cymru ar ail ddiwrnod y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Dywedodd llywydd yr undeb, Glyn Roberts, wrth BBC Cymru y byddai angen cyflwyno ysgogiad ariannol yn ogystal â chymorth i ffermwyr oedrannus allu ymddeol a rhyddhau tir.
Ond mae'r Ysgrifennydd dros Gefn Gwlad, Lesley Griffiths, yn mynnu ei bod hi wedi blaenoriaethu ffermwyr ifanc ers dechrau yn ei swydd.
Bydd dadl yn cael ei chynnal ar faes y sioe yn ddiweddarach i drafod yr heriau sy'n wynebu'r genhedlaeth ifanc wrth geisio gyrfa ym myd amaeth.
Mae ystadegau diweddara' Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod y gweithlu'n heneiddio. Ar gyfartaledd 60 yw oed perchennog fferm yng Nghymru erbyn hyn, gydag ond 3% dan 35.
Dywedodd Mr Roberts bod angen mynd i'r afael â "thair elfen bwysig".
"Mae angen tir, mae'n rhaid bod ffermydd ar gael i'w rhentu gan nad yw rhywun newydd sy'n dod i mewn i'r diwydiant yn mynd i fedru fforddio prynu," meddai.
"Felly mae'n hollbwysig bod daliadau cyngor sir yn cael eu cadw."
Gyda'u cyllidebau dan bwysau mae sawl awdurdod lleol yng Nghymru wedi bod yn gwerthu tir amaethyddol yn eu meddiant, cam sydd wedi cythruddo undebau ffermio.
Ysgogiad ariannol
Dywedodd: "Fe gefais i'r cyfle pan oeddwn i'n ifanc i ddechrau allan fel amaethwr drwy fod yn denant.
"Mae'n drist bod lot o ddaliadau'r cyngor sir yn cael eu gwerthu heddiw, dydy hynny ddim yn rhoi cyfle i bobl ifanc.
"Ac os 'na allwn ni ddod â phobl ifanc i mewn 'da chi'n colli agweddau gwahanol a syniadau ffres."
Dywedodd hefyd bod angen "ysgogiad ariannol" i helpu ffermwyr ifanc, a chymorth i ffermwyr oedrannus sy'n "methu fforddio ymddeol".
"Maen nhw angen ysgogiad hefyd i fynd o'r ffermydd fel bod lle i bobl newydd ddod drwyddo."
Yn 26 oed, mae Caryl Hughes newydd ddechrau ffermio 300 erw ger Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Wrecsam.
Mae'n dod o gefndir amaethyddol ac roedd angen cymorth y busnes teuluol i fedru dechrau ffermio ar ei phen ei hun.
"Roedd rhaid i fi ddod yn bartner yn y busnes er mwyn i fi allu cael y pres tu cefn i fi oedd angen er mwyn siarad â banc," meddai.
"Dwi 'di bod yn lwcus iawn, iawn achos bod gen i'r fferm deuluol y tu nôl i mi a bod fy rhieni yn gefnogol.
"Ond i'r sawl sydd heb hynny mae'n anodd iawn. Mae rheolwyr banc yn gyndyn iawn o fenthyg arian i ffermydd newydd.
"Her arall hefyd yw gorfod ffeindio'r costau i brynu pethau ar y dechrau, prynu stoc a phethau syml fel ci a quad bike, maen nhw gyd yn hanfodol ond yn costio llawer iawn o arian ar y dechrau."
Dywedodd y byddai'n hoffi gweld Llywodraeth Cymru yn ei gwneud hi'n anoddach i dirfeddianwyr a busnesau mawr brynu tir amaeth allai gael ei gynnig i bobl ifanc.
Mae hefyd am weld cynllun 'match-making' yn cael ei gyflwyno ar gyfer ffermwyr hen ac ifanc, syniad sy'n cael ei dreialu gan Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc Prydain.
"Ry'ch chi'n cymryd ffermwr sydd eisiau ymddeol ac yn ei lincio fo neu hi gyda ffermwr ifanc. Y syniad yw bod y ffermwr ifanc wedyn yn dysgu gan y ffermwr hŷn.
"Gobeithio bydd hyn yn rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei weld ac yn sylweddoli ei fod yn syniad da."
Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gefn Gwlad Lesley Griffiths wrth BBC Cymru fod y llywodraeth yn "gwneud darn o waith gydag awdurdodau lleol i geisio sicrhau bod daliadau amaethyddol cynghorau sir yn cael eu cadw fel ffermydd ac ar gyfer defnydd y sector amaeth".
"Ers i fi gael fy mhenodi dwi wedi gwneud ffermwyr ifanc a newydd ddyfodiaid i'r diwydiant yn flaenoriaeth," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2016
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2017