Dysgwr y Flwyddyn 2017: Adnabod Hugh Brightwell

  • Cyhoeddwyd

Wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2017 yn cael ei gyhoeddi. Pedwar sydd wedi dod i'r brig.

Mae Cymru Fyw wedi bod yn eu holi i ddod i'w hadnabod yn well.

O Ellesmere Port y daw Hugh Brightwell.

Disgrifiad,

Mae Hugh Brightwell wedi cael cyfle i ymarfer ei Gymraeg yn ei siop leol

Pwy wnaeth dy berswadio/ysbrydoli i siarad Cymraeg?

Roedd yn benderfyniad fy ngwraig a fi ar ben ein hunain i ddysgu Cymraeg er mwyn bod yn gwrtais pan oedden ni yng Nghymru.

Ar ôl i mi ddechrau dysgu ges i fy ysbrydoliaeth ac anogaeth gan diwtoriaid ac aelodau cymunedau Cymraeg, nifer ohonynt sy' wedi dod yn ffrindiau.

Dw i'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu cefnogaeth ac amynedd.

Oes digon o help ar gael?

Mae'r tiwtoriaid wastad yn fodlon bod yn gynorthwyol, iddyn nhw ddylech chi droi yn gyntaf. Tu allan y dosbarth mae' na gyfleoedd i chwilio am gymorth ella mewn sesiynau siarad neu ar y we.

Beth fyddai'n helpu ti fel dysgwr?

Byddai yn ddefnyddiol iawn i gyflwyno dysgwyr yn y dosbarth, falle o safon mynediad ymlaen, i bobl o'r gymuned Cymraeg lleol. Dw i'n meddwl bod rhywbeth tebyg yn digwydd yn barod yn Aberteifi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hugh yn teimlo bod angen cynnig cyrsiau fel bod siaradwyr sydd wedi colli'r iaith yn cael cyfle i'w dysgu eto

Beth yw dy hoff air Cymraeg?

"Heddwas" yw fy hoff air, sy'n cael ei weld yn un anarferol gan rai. Does' na ddim sŵn caled yn y gair a dwi'n hoffi'r syniad bod rhywun yn gofalu am yr heddwch yn hytrach 'na bod yn Swyddog y Gyfraith.

Beth am y gair mwyaf anodd i'w ddysgu?

Dw i'n methu meddwl am un gair yn benodol ar hyn o bryd.

Ond dysgais amser maith yn ôl bod y rhan fwyaf o eiriau anodd (neu hir) yn gynnwys rhyw air ac efallai rhagddodiaid neu olddodiaid sy'n gyfarwydd, felly mae'n bosibl i ddefnyddio nhw er mwyn deall a chofio ystyr y gair.

Mae'r un pethau cyfarwydd yn gynorthwyol hefyd i ynganu'r gair yn gywir.

Beth sydd fwyaf anodd am ddysgu Cymraeg?

Dw i dal yn cael trafferth penderfynu beth ydi genedl ramadegol rhai geiriau ac wrth gwrs mae'r treigladau yn achosi trafferth i bron bob dysgwr.

Un gair i ddisgrifio treigladau?

Heriol!

Ffynhonnell y llun, iStock
Disgrifiad o’r llun,

Rhaid i bobl ifanc gymryd balchder yn yr iaith medd Hugh

Sut mae sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?

Dw i'n gweld sawl peth sy angen eu gwneud yn ychwanegol at gynyddu nifer o ddysgwyr cyffredin.

Codi balchder Cymreictod a'r Gymraeg efo bobl ifanc ac yn eu harddegau yn ardaloedd lle mae'r iaith yn wan. Saesneg ydi'r brif iaith diwylliant y bobl yn eu harddegau, ond nid ym mhob man, mae'n rhaid gofyn pam?

Annog siopau a busnesau i osod arwyddion bach yn y ffenest i ddangos bod nhw'n siarad Cymraeg ac yn gefnogol o ddysgwyr.

Cynnal cyrsiau byr tebyg i "Sbaeneg neu Eidaleg ar gyfer Gwyliau" er mwyn bod pobl yn medru dweud pethau syml a defnyddiol yn gyflym iawn. Os ydyn nhw isio gwella mi fyddan nhw yn dod yn ôl.

Cynnal cyrsiau sy'n cael eu hanelu yn arbennig at bobl oedd yn arfer siarad Cymraeg ond wedi ei cholli hi.

Yn fyr, hybu defnydd yr iaith mewn ffyrdd syml iawn er mwyn i bobl ddod i arfer clywed Cymraeg yn y trefi ac ardaloedd lle ar hyn o bryd Saesneg ydi iaith y stryd.

Petaech yn cael eich dewis yn ddysgwr y flwyddyn, mi fyddwch yn cael ymuno gyda'r Orsedd - beth fyddech chi'n dewis fel enw?

Disgrifiad o’r llun,

Trwy ddysgu'r iaith mae Hugh wedi hefyd dod i wybod am hanes Cymru

Mmm, dyna gwestiwn nad ydw i erioed wedi cysidro o'r blaen.

Efallai Gor-ŵyr y Rhos, Gor-ŵyr Edward Dinbych. Edward Denbigh oedd llysenw fy hen daid oedd arfer byw yn y Rhos.

Achos dw i'n byw ger y ffin ac yn ei chroesi hi mor aml byddai yn bosibl i gysidro hefyd Cysgod/Ysbryd/Crwydryn y Ffin.

And one in English

How would you go about persuading others to learn Welsh?

I would talk to them about how much I have enjoyed learning Welsh, the feeling of achievement and heightened confidence with even simple steps forward, how learning to speak Welsh has increased my understanding of Wales, the people of Wales and Welsh history and culture and about the friends I have made, both learners and Cymry Cymraeg.

I would then point out that some non Welsh speakers had previously said they couldn't understand why I hadn't learn French or Spanish, to which I would reply, France and Spain aren't right on my doorstep.