Rhestr aros iechyd meddwl wedi dyblu mewn chwe blynedd
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl sy'n aros am driniaeth iechyd meddwl yng Nghymru wedi dyblu dros y chwe blynedd ddiwethaf, yn ôl ystadegau gan Lywodraeth Cymru.
Dangosodd ffigyrau ar gyfer mis Mai 2017 fod 1,820 o gleifion yn aros am driniaeth, o'i gymharu â 916 ym mis Mai 2011.
Mae nifer sylweddol o'r cleifion hyn yn gorfod aros hyd at chwe mis, ac mae rhai yn teimlo nad oes dewis ganddyn nhw ond talu am driniaeth breifat.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw'n gwario mwy ar iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o'r gwasanaeth iechyd.
Un sy'n teimlo nad oedd dewis ganddo ond mynd yn breifat yw Andrew Tamplin o Fro Morgannwg.
Mewn cyfweliad ar raglen Newyddion 9, bu'n sôn am ei brofiadau: "Digwyddodd e i fi ar fore dydd Sul, a wedodd y corff a'r meddwl, 'hen ddigon, mae'n rhaid stopio', a dyna beth ddigwyddodd.
"Am fisoedd wedi hynny, ffaeles i neud dim byd.
"Y sioc fawr ges i oedd bod yna chwech i wyth mis o aros ar gyfer gweld rhywun, ac o'n i'n ffaelu deall y peth.
"Bydden i ddim yn licio meddwl beth fydde wedi digwydd se'n i wedi gorfod aros chwech mis i weld rhywun, felly talu rhywun yn breifat wnes i.
"Fe gostiodd e rhyw filoedd o bunnau i fynd i weld rhywun yn y pendraw, ar ol rhyw 20, 30 o sesiynau falle. Ro'n i'n lwcus ar y pryd mod i'n gallu fforddio gwneud hynny."
Mae yna bryder hefyd am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg.
Cafodd Gwen Goddard driniaeth breifat i'w salwch meddwl, ac wedi iddi wella, dechreuodd weithio yn y maes, i gwmni hyfforddi.
Mae hi'n dweud bod y galw o fewn y maes yn fawr, yn enwedig yn y Gymraeg: "Mae cymaint o alw am y peth, mae'n anodd i gario'r peth. Mae gyda ni hyfforddwyr ar draws Cymru yn amlwg - dim ond tri ohonyn nhw sy'n medru'r Gymraeg.
"Mae'n rhaid i hyn fod ar gael ar gyfer siaradwyr Cymraeg hefyd."
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ry' ni'n dal i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag unrhyw ran arall o'r gwasanaeth iechyd, ac wedi rhoi targedau mwy llym ar amseroedd aros er mwyn gwireddu'r uchelgais yna.
"Ry' ni'n derbyn bod mwy i'w wneud i wella perfformiad amsereoedd amser, ond mae angen rhoi hyn mewn cyd-destun, bod nifer cynyddol o bobl yn cael eu cyfeirio am driniaeth."