Dyddiadur saer y Gadair

  • Cyhoeddwyd

Eleni, cafodd Cadair yr Eisteddfod ei chynllunio a'i chreu gan y saer coed Rhodri Owen. Agorodd Rhodri ddrws ei weithdy yn Ysbyty Ifan i'r ffotograffydd Geraint Thomas yn ystod y broses hir o greu, a rhannu ei ddyddiadur â Cymru Fyw:

Dewis y coed. ro'n i'n ddigon lwcus i fedru defnyddio coed o'r Ysgwrn i greu y gadair. Y bwriad gwreiddiol oedd defnyddio darn o goedyn o'r adeilad cyn iddyn nhw ei adnewyddu ond mae hyn wedi gweithio'n wych am fod y coed wedi bod yn tyfu yno yn nyddiau Ellis Humphrey EvansFfynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru

Dwi'n ddigon lwcus i fedru defnyddio coed o'r Ysgwrn i greu'r Gadair. Y bwriad gwreiddiol oedd defnyddio darn o goedyn o'r adeilad cyn iddyn nhw ei adnewyddu, ond mae hyn am weithio'n wych gan fod y coed wedi bod yn tyfu yno yn nyddiau Ellis Humphrey Evans.

Y sgetshpad efo'r cynllun gwreiddiol yn gorffwys ar y coed o'r Ysgwrn yn y gweithdy, tra mod i'n gweithio allan yn union sut dwi am wneud hyn!Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru

Mae'r pad sgetsio efo'r cynllun gwreiddiol wastad efo fi, fel arfer yn gorffwys ar y coed o'r Ysgwrn yn y gweithdy, tra mod i'n gweithio allan yn union sut dwi am wneud hyn!

Llifio'r coesau ôl yn fras i faint gan gofio bod dwy ohonyn nhw abod yr onglau ar y ddwy goes ôl yn gorfod bod yn union yr un fath ar gyfer gweddill y joinery. Digon hawdd os yn ddarnau syth, ddim mor hawdd yn yr achos yma.Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru

Llifio'r coesau ôl yn fras i faint, gan gofio bod yr onglau ar y ddwy goes ôl yn gorfod bod yn union yr un fath ar gyfer uno popeth. Digon hawdd os yn ddarnau syth, ddim mor hawdd yn yr achos yma.

Mae 'na lot o gysidro a chwythu gwynt a cherdded nôl ac ymlaen, smocio a rhegi wedi bod wrth i mi drio gweithio fy ffordd o amgylch y cynllun, yn enwedig efo'r camau cynnar ond mae gweithio efo tŵls llaw yn medru helpu efo'r broses meddwl. Heblaw am y sgrifen, bydd yr holl Gadair wedi ei chreu â llaw.Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru

Mae 'na lot o gysidro a chwythu gwynt a cherdded nôl ac ymlaen, smocio a rhegi wedi bod wrth i mi drio gweithio fy ffordd o amgylch y cynllun, yn enwedig efo'r camau cynnar. Ond mae gweithio efo tŵls llaw yn medru helpu efo'r broses meddwl. Heblaw am y 'sgrifen, bydd yr holl Gadair wedi ei chreu â llaw.

Mae'r joinery i gyd wedi eu gwneud a llaw a mae'r foment pan mae darn ddarn yn uno'n berffaith am y tro cyntaf. Hwn yn y llun ydi'r darn pwysica, am fod gweddill yr uniadau a'r gadair gyfa yn cael eu rheoli gan gywirdeb y darn yma.Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru

Mae'r uno i gyd wedi ei wneud â llaw ac mae'r foment pan mae dau ddarn yn uno'n berffaith am y tro cyntaf yn hanfodol. Yr uniad yma ydi'r darn pwysica', am fod gweddill yr uniadau a'r Gadair gyfan yn cael eu rheoli gan gywirdeb y darn yma.

Unwaith ddaeth y cefn at ei gilydd ro'n i'n dechrau gweld y goleuni. Ar y pwynt yma mae'r siap yn edrych yn fawr ac yn drwsgwl ac yn hollol wahanol i sut mai'n edrych ar y diwedd.Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru

Rŵan fod y cefn at ei gilydd, dwi'n dechrau gweld y goleuni. Ar y pwynt yma mae'r siâp yn edrych yn fawr ac yn drwsgl ac yn hollol wahanol i sut mae hi am edrych ar y diwedd.

Un diwrnod mi ddysga i sut i gerfio llythrennau ond yn y cyfamser diolch i'r drefn bod llosgwr laser Pontio, Bangor yn medru llosgi drwy 3mm o onnen yn daclus. Mae hyn yn union fel gludo laminate ar ddodrefnyn a'r paneli llythrennau yn gwneud eu gwaith yn union yr un fath.Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru

Un diwrnod mi ddysga i sut i gerfio llythrennau ond yn y cyfamser diolch i'r drefn bod llosgwr laser Pontio, Bangor, yn medru llosgi drwy 3mm o onnen yn daclus.

Mae yna lawer moment lle mae bob dim yn dod at ei gilydd yn ystod y gwneuthuriad, ma hyn yn wir am bob darn o ddodrefn ond mae'n broses ara deg ac angen amynedd. Yn aml iawn mae unrhyw ddiffyg amynedd yn cael ei guro gan yr awydd i weld y darn terfynnol..Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru

Mae yna lawer moment lle mae bob dim yn dod at ei gilydd yn ystod y gwneuthuriad ond mae'n broses ara' deg ac mae angen amynedd. Yn aml iawn mae unrhyw ddiffyg amynedd yn cael ei guro gan yr awydd i weld y darn terfynol...

roedd y foment yma yn un lle roedd pob dim i weld yn dod at ei gilydd. Ro'n i angen lliwio'r hanner gwaelod yn ddu, un opsiwn o'n i wedi feddwl amdano oedd llosgi'r pren efo blowtorch. Ond wedyn penderfyny ers dipyn bod hyn ychydig yn risgi ar ôl creu yr holl gadair i roi y diawl ar dan. Does na ddim byd wedi ei gludo at ei gilydd yn y llun yma, dim ond y joinery, felly ro'n i'n edrych ymlaen i'w thynnu o'i gilydd a'i phaentio efo India inc. fyswn i byth yn ei gweld hi yn y stad yma eto.Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru

Dwi rŵan angen lliwio'r hanner gwaelod yn ddu. Un opsiwn o'n i wedi meddwl amdano oedd llosgi'r pren efo blowtorch. Ond wedyn penderfynu bod hyn ddim wir yn syniad da; ar ôl creu yr holl gadair, mod i'n ei rhoi hi ar dân! Does 'na ddim byd wedi ei ludo at ei gilydd ar hyn o bryd, felly dwi'n edrych ymlaen i'w thynnu oddi wrth ei gilydd a'i phaentio efo inc Indiaidd.

Y gadair orffenedig efo'r inc, cwyr, lledr a phob addurn arall yn ei le.Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru

Y Gadair orffenedig efo'r inc, cwyr, lledr a phob addurn arall yn ei le.

Ewch i wefan Eisteddfod BBC Cymru Fyw am yr holl straeon, lluniau a chanlyniadau o Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017 - gan gynnwys llif byw o'r Pafiliwn.

Gallwch wylio seremoni'r Cadeirio am 4.30 brynhawn Gwener 11 Awst er mwyn gweld pwy sydd wedi ennill Cadair hardd Rhodri.