Angen 'ystyried yn ofalus' cyn cynnig prawf Syndrom Down

  • Cyhoeddwyd
Sgan bol
Disgrifiad o’r llun,

Mae NIPT yn brawf gwahanol i'r amniocentesis sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer diagnosis cyflyrau genetig ar y ffoetws ar hyn o bryd

Mae angen "ystyried yn ofalus" cyn dod â phrawf Syndrom Down newydd yn rhan o wasanaethau mamolaeth Cymru, yn ôl elusen.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthi'n ystyried a ddylid cyflwyno profion NIPT.

Yn ôl y Gymdeithas Syndrom Down yng Nghymru, dydy'r prawf ddim yn rhoi diagnosis, er y gallai roi gwell cyngor i famau beichiog.

Bydd cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar y mater yn fuan.

Cyflwyno NIPT yn Lloegr

Mae'r prawf NIPT, sef y prawf cyn-enedigaeth anymwthiol, yn profi rhannau o DNA'r ffoetws sydd yng ngwaed y fam i weld allai'r plentyn fod â chyflwr genetig neu gromosomaidd.

Y dechneg gyffredin ar hyn o bryd yw amniocentesis, sy'n profi'r hylif o amgylch y ffoetws ac yn achosi i un o bob 200 mam golli'i phlentyn.

Y gred yw bod NIPT yn fwy diogel ac yn fwy cywir, a bydd yn cael ei ddefnyddio yn Lloegr o 2018 yn dilyn argymhelliad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU.

Disgrifiad o’r llun,

Rhybudd y Gymdeithas Syndrom Down yng Nghymru yw y byddai'n rhaid cael prawf arall i gadarnhau canlyniad y prawf NIPT

Yn ôl Julian Hallett o'r Gymdeithas Syndrom Down yng Nghymru, fe fyddai'n rhaid i fenywod gael prawf ymwthiol - sy'n golygu profi tu fewn i'r corff - i gael diagnosis pendant a chadarnhau canlyniad y prawf NIPT.

Dywedodd na ddylai Cymru ruthro i ddilyn Lloegr a defnyddio'r prawf nes bod staff y Gwasanaeth Iechyd yma'n barod i gefnogi merched ac adnabod yr opsiynau newydd sydd 'na o ran sgrinio.

"Dydy'r ffaith bod Lloegr yn mynd ati a bod Cymru heb wneud hynny eto, dwi ddim yn meddwl bod hynny'n broblem," meddai.

"Mewn rhai ffyrdd, fe allen ni edrych ar y ffordd mae'n gweithio yn Lloegr ac adlewyrchu ar yr hyn gaiff ei ddysgu.

"Bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru edrych ar sut mae byrddau iechyd ar draws Cymru yn casglu samplau, ble fyddan nhw'n cael eu profi, ac, yn hollbwysig, bydd yn rhaid i fydwragedd a chydlynwyr sgrinio gael hyfforddiant am y system a chael gwybodaeth gytbwys, gywir a diweddar am y cyflyrau mae'r profion yn chwilio amdanyn nhw."

'Gwybodaeth rhy negyddol'

Yn ôl Mr Hallett, mae merched hefyd yn cael "gwybodaeth sy'n rhy negyddol" gan weithwyr iechyd ar hyn o bryd.

Dywedodd bod angen "cydbwyso hyn â gwybodaeth bositif am y cyflwr ac esbonio bod mwy o cyfleoedd i oedolion a phlant â Syndrom Down heddiw".

Ychwanegodd y byddai angen i ferched allu cael cyngor yn "sydyn" fel eu bod yn medru gwneud penderfyniad yn sgil y prawf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r prawf NIPT ar gael yn breifat ar hyn o bryd

Mae'n debyg y byddai'r prawf NIPT - sydd ar gael yn breifat yng Nghymru - ond yn cael ei gynnig i'r merched rheiny sydd wedi cael gwybod bod y tebygolrwydd bod eu plentyn â chyflwr genetig yn sgil prawf sgrinio cyfunol.

Dywedodd Dr Sharon Hillier, cyfarwyddwr dros dro adran sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru, bod paratoadau ar y gweill i fwrw ymlaen â'r cynllun yng Nghymru o dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru.

"Yn ddiweddar mae Pwyllgor Sgrinio Cymru wedi ystyried yr opsiynau am ddefnyddio NIPT yng Nghymru ac mae cyngor ar gyfer gweinidogion yn cael ei baratoi ar hyn o bryd," meddai.

"Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud cyhoeddiad cyn hir fydd yn rhoi arweiniad o ran sut bydd y gwaith yma'n cael ei weithredu yng Nghymru."