Sut i greu... penwisg blodau
- Cyhoeddwyd
Heb os, un o ddefodau mwyaf poblogaidd a lliwgar seremonïau Gorsedd y Beirdd yw y ddawns flodau.
Mae merched oedran ysgol gynradd ardal yr Eisteddfod yn dawnsio yng nghylch yr orsedd ac ar lwyfan y brifwyl i anrhydeddu'r prifardd, ac yn ddigon o sioe gyda'u penwisgoedd o flodau gwyllt y maes.
Ydych chi eisiau edrych mor ddel â nhw? Mae dwylo medrus Cymru Fyw yma i'ch helpu chi i greu un eich hun!
Byddwch angen:
Tâp gwyrdd
Siswrn tocio
Weiren garddio
Siswrn
Rhuban
Gwyrddni
Blodau bach*
Blodau lliwgar*
Un blodyn mawr*
* Gallwch ddefnyddio blodau go iawn (fel merched y ddawns flodau) neu flodau ffug
Mae angen digon o'r weiren i fynd o amgylch eich pen dair gwaith
Gwnewch siâp cylch gyda'r weiren
Torrwch y tâp gwyrdd yn stribedi bychain
Defnyddiwch y tâp i gadw'r weiren at ei gilydd er mwyn creu ffrâm gadarn i'r penwisg
Torrwch y gwyrddni, y blodau bach, a'r blodau lliwgar gan gadw'r coesau yn hir
Ychwanegwch y gwyrddni at y weiren a'u rhoi yn sownd gyda'r tâp nes bod y ffrâm bron wedi ei gorchuddio i gyd
Yna ychwanegwch y blodau bach, y blodyn mawr a'r blodau lliwgar at y ffrâm, er mwyn creu penwisg llawn lliw
Yn olaf, ychwanegwch y rhuban drwy ei lapio yn dynn o amgylch y weiren sydd dal yn y golwg a defnyddio'r tâp i'w gadw yn ei le
Nawr, y cwbl rydych chi angen ei wneud yw ymarfer y ddawns...!