Pam mai Môn yw 'Mam Cymru'?
- Cyhoeddwyd
Ymhen ychydig ddyddiau bydd llygaid Cymru gyfan (a thu hwnt) ar Ynys Môn wrth iddi groesawu'r genedl i Eisteddfod Genedlaethol 2017.
Mae Ynys Môn yn enwog am y ddwy bont sy'n croesi'r Fenai, ei llwybr arfordirol, ei thraethau di-ri a'i hamrywiol lannau (46 i gyd). Caiff hefyd ei hadnabod fel Môn Mam Cymru, neu Wlad y Medra a gelwir ei thrigolion, y Monhwysion, weithiau yn Foch Môn. Mae'r enwau hyn yn gyfarwydd i lawer ohonom, ond llai cyfarwydd efallai yw'r straeon tu ôl i'r enwau hyn.
Mwy am Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ar Cymru Fyw, dolen allanol.
Môn Mam Cymru
Bathwyd yr enw hwn gan neb llai na Gerallt Gymro. Mae'r cofnod cynharaf o'r enw anwylo hwn yn yr ysgrif Itineranium Cambriae (1191) sef cofnod o daith Gerallt Gymro drwy Gymru yn y ddeuddegfed ganrif. Ynddi, honodd fod Môn mor doreithiog ei chnydau, yn cynhyrchu mwy o rawn nag unrhyw ran arall o Gymru, ac felly'n cyflenwi Cymru gyfan, yn union fel y gwnai mam i'w phlant.
Mae'n debyg mai gorddweud ar ran Gerallt Gymro oedd hyn, er hynny mae'n debyg fod ychydig o wirionedd i'r cysyniad, gan fod yr ynys yn cyflenwi trigolion Gwynedd gyda grawn a chnydau yn y cyfnod hwnnw.
Gwlad y Medra
Branwen Ferch Llŷr, ail gainc y Mabinogi, yw'r chwedl fwyaf adnabyddus a gysylltir â Môn ond nid yw'r enw hwn ddim i wneud â'r chwedl, mewn gwirionedd. Mae tinc chwedlonol a llenyddol i 'Wlad y Medra', ond mae ei wreiddiau yn hanes diwydiannol Ynys Môn.
Tuag at derfyn y ddeunawfed ganrif, roedd Mynydd Parys ger Amlwch yn cynhyrchu hyd at 44,000 tunnell o fwynau y flwyddyn, gan wneud tref Amlwch yn un o'r lleoedd mwyaf cynhyrchiol yn y byd am gopr. Ond, yn dilyn cwymp yn y diwydiant copr, roedd yn rhaid i nifer o dirgolion yr ynys groesi'r Fenai i gael gwaith yn y chwareli llechi.
Yn ôl y sôn, dyma lle bathwyd yr enw hwn. "All unrhyw un wneud y gwaith yma?" fyddai cwestiwn y meistri. Mae'n debyg mai gweithwyr brwdfrydig Môn fyddai'r cyntaf i ateb dan weiddi "Medra', medra'!" a gwthio'u ffordd i flaen y dorf. Yn sgil hynny, dechreuodd bobl Gwynedd a thu hwnt gyfeirio'n annwyl at Ynys Môn fel Gwlad y Medra.
Moch Môn
Mae'n anodd gwybod yn union sut daeth pobl Môn i gael eu galw yn 'foch Môn' - mae dwy stori ynglŷn â lle daeth yr enw, ond mae un stori bendant yn fwy difyr na'r llall.
Mae rhai pobl yn dweud mai pobl Caernarfon roddodd yr enw 'moch Môn' ar drigolion yr ynys, gan eu bod yn gweld y ffermwyr a'u moch yn croesi'r Fenai yn ddyddiol. Wrth siarad am yr orymdaith amaethyddol byddai'r Cofis yn dweud fod "moch Môn ar eu ffordd". Glynnodd yr enw, er i daith y moch a'r ffermwyr dros y Fenai beidio ers degawdau.
Yn ôl i'r chwarel lechi â'r stori arall â ni, ac o bosibl hon yw'r fwyaf hanesyddol gywir. Byddai'r dynion o Fôn a weithiai yn y chwareli yn gadael eu tyddynod a'u pentrefi doc wedi tri o'r gloch y bore ar ddydd Llun er mwyn dal fferi o Foel y Don i Bort Dinorwig. O'r fan honno byddai'r gweithwyr yn cerdded i Benscoins ger Felinheli i ddal y trên i'w barics.
Am eu bod yn aros yn y barics gydol yr wythnos waith, deuai'r dynion o Fôn â bara, caws, menyn a chig moch gyda nhw i'w cynnal drwy'r wythnos. Gyda'r nos, cerddai'r chwarelwyr lleol heibio i'r barics ar eu ffordd adref. Trwy'r ffenestr gallai'r chwarelwyr arogli'r cig moch yn coginio. Felly, mae'n debyg, y dechreuodd pobl gyfeirio at y gweithwyr o Ynys Môn fel moch Môn - oherwydd arogl bacwn!
Cyn hir, roedd y cerbydau ychwanegol i gludo'r gweithwyr i ac o'r chwarel ar fore Llun a phrynhawn Sadwrn yn cael eu galw'n "y tryciau moch" gan eu bod nhw'n cael eu hychwanegu'n benodol ar gyfer cludo gweithwyr o Ynys Môn.