Cyhoeddi adolygiad o gynlluniau'r Gymraeg mewn addysg
- Cyhoeddwyd
![aled roberts](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/0407/production/_97213010_aledroberts2.jpg)
Y cyn AC ar gyfer y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts oedd yn gyfrifol am gyhoeddi'r adolygiad i'r awdurdodau lleol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adolygiad i Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg awdurdodau lleol Cymru gan y cyn-aelod cynulliad, Aled Roberts.
Mae'n ofynnol i bob cyngor lunio cynllun yn egluro sut y maen nhw'n bwriadu mynd i'r afael â'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg.
Gall Llywodraeth Cymru naill ai gymeradwyo'r adolygiad, cymeradwyo ond awgrymu newidiadau, neu wrthod y cynlluniau yn gyfan gwbwl.
Yn ôl y disgwyl, mae Aled Roberts wedi dod i'r casgliad bod llawer o'r cynlluniau'r cynghorau yn "wan" a does dim pwynt eu derbyn.
Dywedodd y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr iaith Gymraeg, Alun Davies AC fod addysg wrth wraidd strategaeth dyfodol yr iaith Gymraeg, ac mae sicrhau bod fframwaith ar gyfer cynllunio addas a chadarn yn flaenoriaeth.
![alun davies](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/7937/production/_97213013_alundavies.jpg)
Dywedodd Alun Davies AC fod addysg wrth wraidd strategaeth dyfodol yr iaith Gymraeg
Mae Mr Roberts wedi dweud nad oes pwynt i Lywodraeth Cymru ail-ysgrifennu'r cynlluniau eu hunain.
Yr ateb, meddai, yw arweinyddiaeth well a chydweithrediad dros yr hyn a ddisgwylir gan yr awdurdodau lleol, yn enwedig os yw Llywodraeth Cymru'n gobeithio cyrraedd eu targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae Mr Davies wedi cadarnhau y bydd yn ysgrifennu at bob awdurdod lleol i gyflwyno addasiadau i'w cynlluniau.
Roedd yr adroddiad hefyd yn pwysleisio fod angen "cynllunio a gweithredu ar frys i gynyddu nifer yr athrawon sydd wedi'u hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg".
Fe fydd y llywodraeth yn ymateb yn llawn i'r adroddiad yn yr hydref.
Ychwanegodd Mr Davies: "Mae'n bwysig i ni i gael y system gynllunio yn iawn, ac nad yw addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei ystyried ar wahân.
"Rwy'n ddiolchgar i Aled Roberts am ei waith ar y cam cyntaf yma tuag at newid ac rwy'n edrych ymlaen at adeiladu ar y gwaith hwn yn y dyfodol," meddai.